Daeth Angharad yn aelod cymwys o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol yn 2015.
Astudiodd Angharad Lenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Hertfordshire, gan ennill BA (Anrh). Yna, dechreuodd astudio gyda Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, gan ennill ei thystysgrifau ymarfer yn 2015.
Ar ôl graddio o’r Brifysgol, gweithiodd Angharad yn America am bedwar mis, cyn dychwelyd adref i weithio fel Para-gyfreithiwr mewn cwmni preifat am bedair blynedd, yn ymdrin ag achosion hawlio anafiadau personol. Ymunodd â’r tîm Anafiadau Personol yn yr adran Gyfreithiol a Risg fel Para-gyfreithiwr ym mis Ebrill 2013. Ar ôl cymhwyso, trosglwyddodd i’r tîm Esgeuluster Clinigol, gan arbenigo mewn Gweithio i Wella, gan ymdrin â nifer o achosion o esgeuluster clinigol, a gweithio â’r holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru er mwyn cynorthwyo’r broses Gweithio i Wella a darparu cyngor cyfreithiol arbenigol yn y maes.
Yn ei hamser rhydd, mae Angharad yn mwynhau cadw’n heini trwy fynd i’r gampfa a dosbarthiadau ffitrwydd, mynd i ffwrdd i Orllewin Cymru dros y penwythnos, gwylio ffilmiau yn y tŷ ac addurno’r tŷ.
Hefyd, mae Angharad wedi cymryd rhan mewn sawl digwyddiad elusennol, gan gynnwys Ras Enfys Tŷ Hafan a Her Tri Chopa Cymru i Ganolfan Ganser Felindre.