Mae gan Trish LLB (Anrh) o Brifysgol Birmingham ac LLM mewn Cyfraith Feddygol a Rheoli Risg o Brifysgol Northumbria. Cafodd ei derbyn fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr ym mis Medi 1989 a bu'n gweithio mewn practis preifat tan 2000 pan ddaeth i weithio i'r GIG am y tro cyntaf.
Mae Trish yn aelod o'r Tîm Cleifion Cymhleth. Mae hi'n gweithio dau ddiwrnod yr wythnos o fewn y Tîm Cleifion Cymhleth sydd wedi'i leoli o bell yng Ngogledd Cymru ac mae'n darparu cyngor cyfreithiol, cefnogaeth a chynrychiolaeth i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bennaf mewn perthynas â chwestau a materion y Llys Gwarchod.
Yn ogystal, mae'n gweithio ar Gytundeb Lefel Gwasanaeth dri diwrnod yr wythnos fel cyfreithiwr mewnol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy'n arbenigo mewn damweiniau traffig ffordd, hawliadau anafiadau personol ac ymgyfreitha gwasanaethau ambiwlans gan gynnwys hawliadau esgeulustod clinigol.
Mae'n eiriolwr rheolaidd a phrofiadol mewn materion cwest a hawliadau bach / llwybr carlam. Mae hi hefyd yn darparu hyfforddiant yn rheolaidd ar faterion yn ymwneud â'i phractis.
Mae Trish yn aelod o’r National Ambulance Service Lawyers Network.