Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Pramod Errolla

Mae Pramod Errolla yn Uwch Swyddog Dadansoddi a Datblygu gyda Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC. Mae ganddo gefndir mewn biowybodeg, dadansoddeg data, a datblygu meddalwedd. Mae ganddo brofiad o weithio ar draws amgylcheddau academaidd, gofal iechyd, a chorfforaethol, gan gynnwys Sefydliad Data Mawr Prifysgol Rhydychen a'r GIG.

Mae Pramod yn arbenigo mewn trawsnewid data cymhleth yn fewnwelediadau ystyrlon a datblygu datrysiadau sy'n seiliedig ar dechnoleg i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, gwella gwasanaethau ac amcanion sefydliadol. Mae'n angerddol am gyfuno arbenigedd dadansoddol â dulliau arloesol o ddatrys problemau a chyflawni canlyniadau ymarferol.

Y tu allan i'r gwaith, mae Pramod yn mwynhau teithio, dod i adnabod diwylliannau newydd, treulio amser yn yr awyr agored, a dilyn Clwb Pêl-droed Arsenal.