Daeth Sarah yn Bennaeth Ymgyfreitha Gofal Iechyd yn 2021 ar ôl gweithio ym maes ymgyfreitha esgeuluster clinigol am dros 25 mlynedd.
Cymhwysodd fel Cyfreithiwr yn 1995 yng nghwmni cyfreithiol blaenllaw Nabarro Nathanson ac yna aeth i weithio fel Gyfreithiwr yn Capsticks ac yn ddiweddarach yn Bevan Brittan fel Cyfreithiwr Cyswllt. Ymunodd Sarah â Chyfarwyddiaeth Cyfreithiol a Risg PCGC yn 2003 a daeth yn Arweinydd Tîm yn 2005.
Mae gan Sarah brofiad helaeth o ymchwiliadau cymhleth, hawliadau gwerth miliynau o bunnoedd, hawliadau aml-barti a sicrhau dysgu o ddigwyddiadau. Yn ogystal, mae Sarah yn arbenigwr mewn cyfraith ymchwiliadau cyhoeddus ac yn arweinydd prosiect profiadol. Mae Sarah hefyd yn aelod gweithgar o Adran Fewnol Cymdeithas y Cyfreithwyr.