Daeth David yn Gyfreithiwr cymwys yn 2001.
I ddechrau, cymhwysodd David fel Nyrs Iechyd Meddwl, a gweithiodd am 11 mlynedd mewn lleoliadau ysbyty a chymunedol. Ymunodd David â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2002. Prif faes gwaith David yw Esgeuluster Clinigol. Mae ganddo ddiddordeb arbenigol mewn Iechyd Meddwl o hyd, ac mae’n cynnig cyngor i gleientiaid yn y maes hwn fel rhan o’r tîm Achosion Cymhleth. Mae David hefyd yn rhoi cynrychiolaeth mewn Cwestau, ac mae’n darlithio ar sawl pwnc meddygol-gyfreithiol yn y Byrddau Iechyd, ac mae hefyd yn ddarlithydd gwadd i fyfyrwyr Prifysgol sy’n astudio nyrsio.
Mae David yn arddwr heb ei ail, ac mae’n hoff o ddarllen am ystod eang o bynciau yn ymwneud â hanes. Pan fydd yr amser a’r tywydd yn iawn, mae David yn gwibio ar hyd ffyrdd cefn gwlad ar ei feic modur.