Cymhwysodd Emma fel cyfreithiwr yn 2013.
Cwblhaodd Emma ei gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe a'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar ôl iddi radio, bu Emma yn gweithio mewn practis preifat yng Nghaerdydd a datblygodd ddiddordeb brwd mewn esgeulustod clinigol yn ystod ei chytundeb hyfforddi. Pan gymhwysodd, symudodd Emma i bractis preifat cenedlaethol a bu’n gweithio yn eu swyddfeydd ym Mryste a Chaerdydd lle buodd yn arbenigo mewn esgeulustod clinigol.
Bu Emma yn cynrychioli hawlwyr tan 2019 pan benderfynodd ei bod am ddechrau amddiffyn y GIG a symudodd i Wasnaethau Cyfreithiol a Risg. Mae ganddi waith achos amrywiol sy’n mynd i’r afael â phob agwedd ar hawliadau esgeulustod clinigol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae Emma yn gwirfoddoli ar gyfer y Samariaid yn ei hamser hamdden ac mae’n mwynhau mynychu cyngherddau a sioeau comedi.