Daeth Nicola yn Gyfreithiwr cymwys yn 2011 wedi iddi graddio yn y Gyfraith a Ffrangeg, yn ogystal â’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.
Ymunodd â thîm Esgeuluster Clinigol y gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi iddi gymgwyso, ac mae hi’n ymdrin ag ystod eang o hawliadau, gan gynnwys sgrinio canser, oncoleg, orthopaedeg, llawdriniaeth, niwrolawdriniaeth, obstetreg a gynecoleg, anafiadau geni a meddygaeth gyffredinol. Mae Nicola hefyd wedi rhoi cyngor ar faterion a ymchwilir gan y Rheoliadau Gweithio i Wella, sef gweithdrefn gwynion y GIG yng Nghymru. Mae Nicola hefyd yn ymgymryd â chwestau ac yn cynnal trafodaethau ar gyfer grwpiau o weithwyr iechyd proffesiynol.
Yn ei hamser hamdden, mae Nicola yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu ifanc. Mae Nicola yn aelod gweithgar o’r gymuned, ac mae’n treulio llawer o’i hamser yn rhedeg uned Girl Guides, a chymryd rhan mewn digwyddiadau Girl Guides lleol. Mae Nicola hefyd yn hoff o ddarllen, coginio a chrefftau.