Cymhwysodd Charlotte fel Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig yn 2020.
Astudiodd Charlotte y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio yn 2013, a bydd yn cwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2022. Dechreuodd ei gyrfa gyfreithiol yn Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, lle bu’n ymdrin yn bennaf ag achosion esgeuluster clinigol a hawliadau anafiadau personol, cwestau a materion gwneud iawn o dan y rheoliadau “Gweithio i Wella”.
Ymunodd Charlotte â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2018. Mae ei gwaith presennol yn ymwneud â hawliadau esgeuluster clinigol, cwestau a gwneud iawn ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Y tu allan i'r gwaith, mae Charlotte yn mwynhau treulio amser gyda'i merch, mynd â'i chi am dro a mynd allan i fwyta.