Mae Ross yn gyfreithiwr yn yr adran Esgeulustod Clinigol, lle mae’n arbenigo ym mhob agwedd ar hawliadau esgeulustod clinigol, cwestau, iawndaliadau a materion yn ymwneud â chostau.
Graddiodd Ross yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd yn 2011, cyn cwblhau Cwrs Ymarfer y Gyfraith yn 2012.
Dechreuodd Ross ei yrfa yn y GIG trwy weithio fel Ymchwilydd Arbennig, yn ymdrin â hawliadau ôl-weithredol am gyllid Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Yna symudodd i adran Cyfraith Masnach Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Chwefror 2013, i ymdrin ag agweddau amrywiol ar gyfraith masnach, adolygiadau barnwrol a thrafodion a chontractau eiddo, cyn dod yn gyfreithiwr dan hyfforddiant ym mis Ebrill 2014.
Yn ystod ei gontract hyfforddi, enillodd Ross ystod eang o brofiad ym maes esgeulustod clinigol a chyfraith gofal iechyd cyffredinol, a daeth yn gyfreithiwr ym mis Ebrill 2016. Mae wedi bod yn gweithio fel cyfreithiwr esgeulustod clinigol ar ran diffynyddion ers hynny.
Y tu allan i’r gwaith, mae Ross yn mwynhau gwylio a chymryd rhan mewn pob math o chwaraeon, gan gynnwys chwarae pêl-droed dros dîm 5 bob ochr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae hefyd yn mwynhau coginio a theithio. Yn ddiweddar, mae Ross wedi bod yn gwella ei sgiliau DIY er mwyn adnewyddu ei dŷ.