Ymgymhwysodd Lydia yn gyfreithiwr yn 2017.
Enillodd Lydia radd yn y Gyfraith a Pholisi Cyhoeddus ynghyd â Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith, a chwblhaodd Gwrs Ymarfer y Gyfraith.
Dechreuodd Lydia ei gyrfa fel paragyfreithiwr yng nghwmni cyfreithiol Hugh James yn ei adran Anafiadau Personol. Wedi hynny ymunodd â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fel paragyfreithiwr yn yr Adran Esgeulustod Meddygol. Dechreuodd Lydia ei chontract hyfforddi ym mis Medi 2015 ac ymgymhwysodd yn nhîm Cwm Taf yn 2017.
Mae Lydia yn ymdrin â materion amrywiol ym maes esgeulustod meddygol, ac mae hefyd yn cynrychioli cleientiaid mewn cwestau ar y cyd â darparu hyfforddiant ar nifer o bynciau, fel cadw cofnodion, cydsyniad ac esgeulustod meddygol.
Mae Lydia yn mwynhau cymdeithasu â'i theulu a'i ffrindiau yn ei amser hamdden. Mae hefyd yn mwynhau mynd i ddosbarthiadau ffitrwydd, coginio a mynd i'r theatr.