Daeth Charlotte yn Gyfreithiwr cymwys yn 2015.
Astudiodd Charlotte am ei gradd israddedig yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, cyn graddio yn 2010. Yna, aeth ymlaen i astudio’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd.
Ynghyd â’i hastudiaethau yn y brifysgol, aeth Charlotte i nifer o leoliadau gwaith i ennill profiad mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys ysgol haf yn Llundain yn ymwneud â chwmnïau masnachol mawr o’r radd flaenaf, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yn ogystal ag ymweld â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ar sawl achlysur. Wrth astudio am ei Chwrs Ymarfer Cyfreithiol a dwy swydd ran amser, roedd Charlotte yn gwirfoddoli un diwrnod yr wythnos yn ei Chanolfan Cyngor ar Bopeth lleol.
Ymunodd Charlotte â’r gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Gorffennaf 2011 fel Ymchwilydd Arbennig Para-gyfreithiol yn gweithio ar y Prosiect Ôl-weithredol Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Dechreuodd ei rôl fel Para-gyfreithiwr Esgeuluster Clinigol ym mis Hydref 2012, a dechreuodd ei chytundeb hyfforddi ym mis Medi 2012.
Daeth Charlotte yn gyfreithiwr cymwys ym mis Gorffennaf 2015, ac mae hi’n gweithio yn y tîm Esgeuluster Clinigol, yn arbenigo mewn hawliadau, unioni, cwestau a chostau esgeuluster clinigol. Rhan fawr o’i rôl yw rhoi cyngor cynhwysfawr i gleientiaid ynghylch Rheoliadau’r GIG ar Drefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn (Cymru) 2011.
Y tu allan i oriau gwaith, mae Charlotte yn mwynhau teithio ac ymarfer ei sgiliau ysgrifennu a siarad Cymraeg. Yn ddiweddar, mae hi wedi dechrau rhedeg er mwyn ceisio gwella ei ffitrwydd, a chymryd rhan mewn rasys elusennol lleol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Charlotte wedi mwynhau ailaddurno ei thŷ, sydd wedi arwain at ddysgu rhai o driciau crefft DIY.