Yn ogystal â rheoli llwyth achosion o esgeulustod clinigol o hawliadau cymhleth gwerth uchel, Vanessa yw Pennaeth Hyfforddiant a Datblygiad Cyfreithiol ar gyfer yr holl Wasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae hyn yn cynnwys rheolaeth strategol o’r hyfforddiant mewnol i staff cymwys a chyn-gymwys i sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol ac ymwybyddiaeth o faterion cyfreithiol cyfredol sy'n effeithio ar y cyngor a ddarparwn i'n cydweithwyr yn y GIG. Mae Vanessa hefyd yn cefnogi pob Rheolwr Tîm yn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg i ddarparu hyfforddiant pwrpasol i gleientiaid ar faterion cyfreithiol sy'n berthnasol i'r GIG.
Vanessa yw'r Pennaeth Hyfforddiant penodedig o dan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac mae'n cefnogi'r holl staff yn eu datblygiad gyrfa, o gyfreithwyr dan hyfforddiant i uwch gyfreithwyr. Mae Vanessa hefyd yn rheoli'r Cynllun Mentor, sy'n caniatáu i bob cydweithiwr geisio neu ddarparu cefnogaeth ar unrhyw faterion gan gynnwys amcanion personol a datblygiad gyrfa.
Os mae gennych unrhyw ymholiadau am hyfforddiant a datblygiad, cysylltwch â Vanessa ar Vanessa.Llewellyn@wales.nhs.uk