Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Cynhaliwyd ail ddigwyddiad Grŵp Rhwydweithio Cyfreithwyr Esgeuluster Clinigol’ De Cymru yn ddiweddar. Roedd yn llwyddiant ysgubol, fe ddenodd tua 70 o bobl ac fe gynrychiolwyd ystod eang o gwmnïau hawlio yn eu plith. Yr uchafbwynt oedd presenoldeb tri barnwr Esgeuluster Clinigol uchel eu parch: y Barnwr Rhanbarth Vernon, y Barnwr Rhanbarth Evans a'i Anrhydedd y Barnwr Harrison.
Rhannodd y barnwyr fewnwelediadau am eu rolau a'u profiadau, ac yna cafwyd sesiwn Holi ac Ateb ddiddorol a ysgogodd drafodaethau bywiog. Arhosodd y mynychwyr i rwydweithio dros de a chacen wedyn ac rydym wedi derbyn sylwadau cadarnhaol, sy'n adlewyrchu gwerth y digwyddiad.
Mae cydweithio yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i bawb sy'n ymwneud ag ymgyfreithio esgeuluster clinigol ac mae digwyddiadau o’r math hwn yn hanfodol yn yr oes hon sydd ohoni o fynychu o bell.
Diolch i Rhian Parsons, Eleri Davies, Lauren Watkins a Claire Weldon am eu cymorth trefnu i gyd, tîm Esgeuluster Clinigol Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC am eu cefnogaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am gadael i ni gynnal y digwyddiad yn eu hadeiladau.