Roeddem ni yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn falch iawn o ddarganfod yr wythnos diwethaf bod ein Cyfarwyddwr, Anne-Louise Ferguson i gael ei phenodi'n Aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig, fel rhan o restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2019. Bydd hi'n derbyn yr AYB am ei gwasanaethau i'r GIG, y bu'n gweithio iddo ers 1991 pan ymunodd â'r hyn a elwir yn 'Swyddfa Gymreig'. Ar ôl arwain y tîm yma ers 1996, mae wedi goruchwylio ac ehangu'r gwasanaeth sydd bellach yn bwriadu bod yn dîm cyfreithiol mewnol o safon fyd-eang i'r GIG yng Nghymru.
Dywedodd Mark Harris, Uwch Gyfreithiwr, "Llongyfarchiadau o waelod calon i’r 'pennaeth' gan bawb ohonom yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Gellid dweud llawer mwy na'r hyn y mae'r hysbysiad dyfarnu yn ei ganiatáu, fel y ffaith bod Anne-Louise yn gyfreithiwr gwych a phenigamp, gyda meddwl strategol cryf, gan gyfarwyddo sefydliad sydd yn gweithio'n ddigidol, ac sydd ar flaen y gad technolegol mewn arfer cyfreithiol modern, yn hir cyn i 95% o’r proffesiwn cyfreithiol hyd yn oed ddechrau meddwl amdano”.
Dywedodd Anne-Louise ei bod hi'n "falch ac yn gyffrous i gael ei phenodi’n Aelod o’r Ymerodaeth Brydeinig. Diolch a llongyfarchiadau i bawb yn fy nhimau. "
Wedi cadw'r gyfrinach yn ddidwyll o fis Tachwedd hyd nes y cyhoeddwyd y newyddion ar y 28ain o Ragfyr, mae hi bellach yn edrych ymlaen at ei thaith i'r Palas i gasglu ei gwobr gyda'i theulu. Mae’n edifar ganddi nad yw ei thad yn fyw i’w gweld yn derbyn yr anrhydedd. Bu'n Gyrnol yn y fyddin ac yn caru pob peth Brenhinol a seremonïol.
Darllenwch erthygl y Law Gazette ar Gyfreithwyr proffesiynol sy'n derbyn anrhydeddau eleni yma: https://www.lawgazette.co.uk/news/new-years-honours-profession-recognised-for-achievements/5068751.article