Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â'r Tîm - Tîm Cwestau Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg

Cwrdd a

Mae’r Tîm Cwestau yn rhan o Dîm Cleifion Cymhleth (COP) yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC. Mae'r tîm yn cynnwys: Gavin Knox, Arweinydd y Tîm, Uwch Gyfreithwyr: Kamila Kubryn, Patricia Gaskell a Kathy Dwyer a'r cyfreithiwr Ceri Burke.  Cynorthwyir y tîm gan dîm amhrisiadwy o baragyfreithwyr, sef Yasmin Kerton, Rebecca Czerniak a Molly Nicholls yn ogystal â’r ysgrifennydd Heidi Desscan. 

Llun o

Mae'r tîm yn edrych i ychwanegu mwy o bobl at y tîm eleni felly gwyliwch y wefan hwn i gael newyddion am swyddi gwag y byddwn yn hysbysebu amdanynt yn y dyfodol.

Y Tîm Cwestau yw prif ddarparwr cyngor a chymorth i bob Bwrdd Iechyd a sefydliad gofal iechyd yng Nghymru.  Mae’r tîm yn cynghori ar y cwestau mwyaf hir, cymhleth ac uchel eu proffil yng Nghymru.

Mae ein meysydd arbenigedd yn cynnwys:

  • Cynghori ar geisiadau Crwneriaid am ddatgelu tystiolaeth ddogfennol, Gwysion Tystion a mynd i’r Adolygiad Cyn Cwest.
  • cefnogi ein cleientiaid a'u gweithwyr drwy broses y Cwest.
  • cynghori ar gwestau'n ymwneud ag ymchwiliadau'r Heddlu / yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) / yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth (PPO) yn dilyn marwolaeth ac ymchwiliad gan Grwner.
  • cynghori ar ddiogelwch cleifion a Dyletswydd Gonestrwydd.
  • adolygu ymchwiliadau mewnol a chynghori ar argymhellion a chynlluniau gweithredu.
  • cael ymchwiliadau allanol a chyfarwyddyd gan arbenigwyr.
  • Gweithio gyda thimau esgeuluster clinigol mewn achosion priodol i sicrhau dull cydgysylltiedig o ymdrin â hawliadau a chwynion sydd wedi bod yn destun ymgyfreitha.
  • cefnogi tystion wrth baratoi ar gyfer Cwestau
  • Deddf Meinweoedd Dynol 2005 ac archwiliadau post-mortem.
  • eiriolaeth yng nghwestau Crwneriaid, gan gynnwys Erthygl 2 a Chwestau Rheithgorau, yn aml pan fydd 
    Personau Eraill â Diddordeb yn cael eu cynrychioli gan Gwnsler.
  • Cynghori ar gwestau Erthygl 2 cymhleth, gan gynnwys honiadau o esgeuluster difrifol, dynladdiad ac esgeuluster.
  • drafftio datganiadau dysgu gwersi, cynghori ar ymatebion i adroddiad a gyhoeddir gan Grwner.
  • hyfforddiant ym mhob agwedd ar gyfraith grwnerol, gan gynnwys dynladdiad corfforaethol ac awgrymiadau ymarferol ar ysgrifennu datganiadau ar gyfer y Crwner a rhoi tystiolaeth yn y Llys.
  • adolygiad barnwrol o benderfyniadau Crwneriaid.
  • delio gyda'r cyfryngau, gan gynnwys drafftio cyfathrebiadau i'r wasg.

 

Mae’r Tîm yn hefyd mynychu, yn cynghori ac yn cyfrannu at gyfarfodydd Rhwydwaith Diogelwch a Dysgu Cwestau gyda holl Fyrddau Iechyd Cymru.

Gyda phrofiad a gwybodaeth mor eang, gall y Tîm Cwestau roi cyngor arbenigol ar bob mater sy'n ymwneud â Chwestau. Os oes gennych ymholiad, cysylltwch â mewnflwch y tîm - legalandriskcopteam@wales.nhs.uk