Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod a'r tîm - Tîm Betsi Cadwaladr

 

Ein tîm - Tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Betsi teamMae tîm Betsi, neu fel y caiff ei gamdeipio’n aml, ‘Besti’, yn gweithredu yn adran esgeulustod clinigol Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Caiff y tîm ei arwain gan Elizabeth Dawson a’i gefnogi’n fedrus gan uwch gyfreithwyr, cyfreithwyr iau, paragyfreithwyr a’n hysgrifenyddes gyfreithiol uchel ei chlod.

Ein tîm

Rydym ni’n griw hapus o saith cyfreithiwr, sef Liz, Tracey, David, Gemma Cooper, Gemma Utley, Gareth a Settor, dau baragyfreithiwr, Abigail a Ruth, ac ysgrifenyddes hynod effeithlon a serchog, Eleanor.

Ein gwaith

Mae’r tîm yn gweithredu ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn bennaf er mwyn amddiffyn hawliadau sifil esgeulustod clinigol, a all amrywio o hawliadau cymhleth a thra phwysig e.e. plant bach sydd wedi cael niwed i’r ymennydd, i hawliadau symlach e.e. oedi wrth wneud diagnosis o dorasgwrn. Rydym ni’n cynrychioli ein cleientiaid mewn cwestau ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â chostau cyfreithiol a chyngor cyfreithiol meddygol cyffredinol.

At ei gilydd, mae gan y tîm 83 mlynedd o wybodaeth a phrofiad cyfreithiol, sy’n dipyn o gamp. Er bod y mwyafrif o’n haelodau wedi cael eu “geni” yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg, mae rhai aelodau o’n tîm, sef Gemma Utley, Settor, Ruth ac Abigail, wedi cael profiad o weithio mewn cwmnïau preifat ar ran hawlwyr.

Mae llu o wybodaeth a phrofiad yn ein tîm:

Mae gan Gemma Cooper a Gareth ddiddordeb brwd mewn cyfraith costau ac mae’r ddau yn rhugl yn y Gymraeg. Mae Ruth yn siarad Cymraeg hefyd a bydd hyn o fantais wrth siarad â’n cleientiaid yng Ngogledd Cymru.

Mae Gemma Cooper yn arwain y tîm Gweithio i Wella hefyd, ac mae hithau a Gareth yn cadeirio cyfarfodydd drwy fideo gynadledda gyda’r rheolwyr pryderon a’r clinigwyr, gan oruchwylio’r ymchwiliadau a’r pryderon sy’n codi dan y cynllun yn ogystal ag unrhyw broblemau sy’n dod i’r fei. Mae’r tîm cyfan yn cynorthwyo â Gweithio i Wella hefyd, gan roi cyngor ar ymchwiliadau a chanlyniadau yn ogystal â chefnogi’r Bwrdd Iechyd yn rheolaidd.

Mae David yn gyn nyrs iechyd meddwl a, gyda’i wybodaeth a’i brofiad ymarferol, mae’n rhoi cyngor ar iechyd meddwl er mwyn cynorthwyo’r tîm Gofal Cymhleth yn ein hadran.

Fel ffordd o reoli risg a gwella’r Bwrdd Iechyd, mae’r tîm cyfan yn brofiadol wrth roi anerchiadau cyfreithiol meddygol i ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan drin a thrafod amrywiaeth eang o bynciau.

Cyflawniadau

Yn ddiweddar, cafodd y tîm ei enwebu ar gyfer gwobr yng Ngwobrau Staff Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru 2018 yn y categori ‘Gweithio gyda’n Gilydd’, oherwydd ein hethos cryf o gydweithio. Daliodd yr enwebiad sylw’r beirniaid yn amlwg oherwydd yn hytrach, cafodd y tîm ei siomi ar yr ochr orau, gan ennill y brif wobr, sef ‘Tîm y Flwyddyn’ yn y seremoni ym mis Rhagfyr. Dyma gydnabyddiaeth amlwg o’r cydweithio ardderchog sy’n mynd rhagddo a’r gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr rydym ni’n ei ddarparu i’n cleientiaid yng Ngogledd Cymru.

Mae’r adborth isod gan ein cleientiaid yn amlygu’r gydnabyddiaeth a’r gwerth ymhellach:

“Mae aelodau’r tîm Cyfreithiol a Risg bob amser yn mynd gam ymhellach er mwyn cynorthwyo â phob agwedd ar reoli hawliadau, gan rannu eu gwybodaeth a’u profiad. Maen nhw’n gefnogol iawn ac rydych chi’n teimlo’n rhan o’r tîm wrth weithio i gyrraedd un nod o ddod i benderfyniadau cyflym ynglŷn â hawliadau a gwella diogelwch cleifion.”

“Yn ddieithriad, mae pob aelod o’ch tîm yn gyfeillgar, yn gydwybodol a bob amser yn barod i helpu pan fyddwn yn ffonio am gyngor/help; maen nhw’n sicr yn gaffaeliad aruthrol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.”

“Fel tîm, maen nhw’n mynd gam ymhellach dros y bwrdd iechyd.”

“Mae pob un ohonom yn teimlo ein bod yn gallu codi’r ffôn ar unrhyw adeg a gofyn am gymorth a chyngor. Rydym ni’n cydnabod bod y tîm o dan bwysau cynyddol ar hyn o bryd oherwydd absenoldebau, ond maen nhw bob amser yn hapus i helpu, maen nhw’n gyfeillgar ac maen nhw’n hawdd mynd atynt ar bob adeg.”

“Rydym ni’n teimlo bod gennym ni berthynas weithio dda iawn gyda phawb yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg ac yn teimlo ein bod ni i gyd yn cydweithio’n dda.”

Gemma C – “...Mae ei chymorth a’i gwybodaeth wedi bod yn amhrisiadwy, ac roedd ei brwdfrydedd ynghylch Gweithio i Wella yn glir o’r cychwyn cyntaf. Mae Gemma wedi rhoi cymaint o’i hamser i’r prosiect – o sicrhau bod yr adroddiadau wedi bod yn destun adolygiad cyfreithiol trylwyr, amserol a theg, i fy nghefnogi i wrth gynghori teuluoedd ar eu hopsiynau o dan Gweithio i Wella. Oherwydd hyn, rydym ni wedi bod yn llwyddiannus mewn sawl ffordd wahanol.”

Bywyd tu allan i'r gwaith

Nid gwaith yw popeth i dîm Betsi/Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – mae gennym ddiddordebau y tu allan i’r swyddfa hefyd! Mae Eleanor, ysgrifenyddes ein tîm, yn mwynhau mynd i gerdded gyda’i chi a mynd ar wyliau penwythnos gyda’i theulu. Mae David yn rhedwr brwd ac mae wedi cymryd rhan mewn sawl ras 10K a hanner marathon. I ymlacio, mae David yn chwarae’r ukulele. Nid yw Tracey, sy’n rhannu car gyda David, yn hollol barod i gael ei serenadu gan David a’i ukulele ar yr M4 ond byddai’n well ganddi hynny na gwrando ar ei wersi hanes. Unigolyn arall sy’n hoff o chwaraeon yw Gareth. Yn gefnogwr Dinas Abertawe yn y bôn, mae’n mwynhau chwarae neu wylio pêl-droed, rygbi a golff. Yn dilyn ymlaen o’r thema pêl-droed, mae Tracey, sydd hefyd yn cefnogi’r Elyrch, yn hyfforddwraig pêl-droed sydd wedi ei hachredu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae ein recriwt diweddaraf, Settor, yn gyn bencampwr tennis iau Cymru, ac mae’n dal i fentro ar y cwrt tennis pan fydd ganddo amser y tu allan i’r cwrt cyfreithiol! Liz, Abigail a Gemma yw ein haelodau creadigol. Mae Abigail yn artist brwd ac mae Liz a Gemma yn mwynhau coginio a phobi. Mae’r tîm wedi elwa ar eu sgiliau coginio yn gyson. Pan nad ydynt yn coginio ac yn pobi, mae Liz yn mwynhau gwneud CrossFit a gwylio rasys beiciau modur, gan fynd i sawl ras MotoGP yn y DU a thramor a chymryd sawl hunlun gyda phencampwyr beicio modur y byd (mae’n ein sicrhau ni nad yw’n stelcio!). Ar y llaw arall, mae Gemma C yn mwynhau rhedeg a mynd ar wyliau i ddinasoedd gwahanol. Mae Tracey hefyd yn mwynhau teithio. Mae wedi ymweld â sawl ynys yn y Caribî ac wedi cwblhau cyrsiau gwifren sip yn y fforest law. Mae Ruth wedi dechrau ymhél â rhedeg ac mae’n cymryd rhan yn y Parkrun wythnosol yng Nghaerdydd yn aml. Mae hefyd yn mwynhau nofio. Ar nodyn mwy hamddenol, mae Gemma Utley yn mwynhau Pilates a threulio amser gyda’i theulu, boed hynny ar wyliau gartref neu ar wyliau dramor. Yn ogystal, mae ganddi ddiddordeb mewn cerddoriaeth, a bu’n aelod o grwpiau siop barbwr.

Os hoffech chi wybod mwy am ein tîm, ewch i’n gwefan ac i’n proffiliau unigol. Fel tîm, rydym ni’n falch iawn o’r lefel uchel o wasanaeth rydym ni’n ei darparu a, drwy weithio gyda’n gilydd, ni yw Tîm y Flwyddyn, heb os nac oni bai.