Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod â'r Tîm – y Tîm Masnachol

 

Commercial TeamMae’r Tîm Masnachol, Rheoleiddiol a Chaffael yn dîm sydd ar gynnydd, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys pum cyfreithiwr, sef Andrew, Marcia, Leanne, Laura a Daniel.

Mae’r tîm yn delio ag ystod o ymholiadau gan gleientiaid yn y Byrddau Iechyd, sy’n ymwneud â chyngor ar gaffael, ymholiadau/anghydfodau ynglŷn â chontractau, cyfraith reoleiddiol, adolygiadau barnwrol ac anghydfodau ynglŷn â chomisiynu/ariannu.

Mae gan Andrew Evans, sy’n uwch gyfreithiwr, 28 mlynedd o brofiad ym maes cyfraith caffael a masnachol y llywodraeth ac awdurdodau lleol. Ymunodd â’r tîm ym mis Mai 2017. Mae gan Marcia Donovan, a ddechreuodd ym mis Medi 2018 fel uwch gyfreithiwr, 12 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes cyfraith caffael a chontractau. Cyn hyn, buodd yn gweithio mewn llywodraeth leol.  Mae Andrew a Marcia yn gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac maent wedi bod yn rhoi hyfforddiant i adrannau caffael y Byrddau Iechyd ledled Cymru yn ddiweddar. Y tu allan i’r swyddfa, mae Andrew yn mynd i weld cerddoriaeth fyw ac mae’n mynd ar daith i’r theatr o bryd i’w gilydd. Mae Marcia yn mwynhau nofio a gwneud pilates yn ei hamser rhydd ac mae bod yn Llywodraethwr gweithgar mewn ysgol uwchradd leol yn ei chadw hi’n brysur.

Ymunodd Laura Johnson a Leanne Fowler â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn baragyfreithwyr yn 2013 a 2014 yn y drefn honno, a sicrhaodd y ddwy ohonynt swyddi o fewn y tîm wedi iddynt gwblhau eu contractau hyfforddi. Mae Laura a Leanne yn delio’n bennaf ag ymholiadau rheoleiddiol ac maent wedi adeiladu perthnasau cryf â’u cleientiaid yn y Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau, gan ennill profiad sylweddol yn y ffordd mae GIG Cymru yn gweithredu’n fewnol.  Y tu allan i’r swyddfa, mae Leanne yn mwynhau prydau da o fwyd a gwylio’r sioeau cerdd teithiol diweddaraf. Mae Laura ar hyn o bryd ar absenoldeb mamolaeth a bydd hi’n dychwelyd i’r tîm yn hwyrach eleni.

Ymunodd Daniel Gandy â’r tîm ym mis Mawrth 2018 ar ôl gweithio i’r Tîm Esgeulustod Clinigol yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg.  Mae Dan wedi bod yn delio ag amrywiaeth o waith ers iddo ymuno â’r tîm, gan gynorthwyo uwch gyfreithwyr â hyfforddiant GDPR a heriau caffael, a rhoi cyngor ar bwerau/dyletswyddau a rhyddid gwybodaeth.  Yn ei amser rhydd, mae Dan yn hoffi mynd ar ei feic modur ac mae’n brofiadol iawn mewn Jiu Jitsu o Frasil.

Mae’r tîm hefyd yn edrych ymlaen at groesawu dau gyfreithiwr newydd fydd yn ymuno â nhw ym mis Mai, gan gynnwys Charlotte Reynolds o’r Tîm Esgeulustod Clinigol sydd newydd ymgymhwyso’n gyfreithiwr.

Er bod bywyd yn y swyddfa yn gallu bod yn brysur, mae’r tîm wastad yn ceisio cael amser am ginio gyda’i gilydd bob mis, er mwyn profi’r bwytai a’r caffis ar Heol yr Eglwys Newydd.

Gyda phrofiad a gwybodaeth mor eang, mae’r Tîm Masnachol, Rheoleiddiol a Chaffael yn fwy na pharod i daclo’r ystod o ymholiadau y byddant yn ei derbyn gan y Byrddau Iechyd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau iddynt, cysylltwch â nhw drwy fewnflwch y tîm Legal&RiskCommercialTeam@wales.nhs.uk