Mae’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wrth eu bodd am cael ei enwi ar y rhestr fer yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru eleni mewn tri chategori; Tîm Mewnol y Flwyddyn, Tîm Eiddo Tiriog y Flwyddyn; a Gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Wrth i ni barhau i weithio i greu amgylchedd gwaith cynhwysol a deniadol a rhagori ar ddisgwyliadau ein cleientiaid, rydym yn gobeithio y bydd pob un o aelodau ein tîm yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cydnabod yn y gwobrau hyn. Yn adlewyrchiad o’r ymroddiad a ddangoswyd gan bawb yn yr is-adran i ddarparu gwasanaeth eithriadol i’n cleientiaid mewn Byrddau Iechyd ledled Cymru, mae’n anrhydedd cael ein cynnwys ar y rhestr fer mewn cymaint o gategorïau.
Roedd gan Rashmi Chakrabarti, Arweinydd Tîm ein Tîm Caffael, Gwaredu a Phrydlesi Eiddo, hyn i’w ddweud ar y newyddion am gyrraedd y rhestr fer:
"Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Tîm Eiddo Tiriog y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru. Mae'r tîm wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi'r Byrddau Iechyd gyda'u gofynion eiddo brys gan sicrhau ysbytai maes, canolfannau profi a safleoedd brechu dros Cymru a'r cyfan yn fyr rybydd. Mae cydnabyddiaeth o'r fath yn gyflawniad aruthrol i'r tîm."
Dymuniadau gorau i bawb sydd ar restr fer Gwobrau Cyfreithiol Cymru, edrychwn ymlaen at eich gweld yn y seremoni ym mis Mai!