Neidio i'r prif gynnwy

Cyfreithiol a Risg yn Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yma rydym wedi gofyn i fenywod Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fynegi beth mae bod yn fenyw yn ei olygu iddyn nhw yn eu rôl gyfreithiol, mewn bywyd, a thu hwnt! Gobeithiwn y bydd eu geiriau, eu cerddi a’u hoff ddyfyniadau ysbrydoledig yn eich helpu i deimlo wedi’ch grymuso i Dorri’r Rhagfarn.

 

"Mae menyw fel bag te - dydych chi byth yn gwybod pa mor gryf yw hi tan ei bod hi mewn dŵr poeth." – Eleanor Roosevelt

 

Daniela Mahapatra, Dirprwy Gyfarwyddwr

Fi yw Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a Chronfa Risg Cymru. Fe allwn i siarad â chi am daith fy ngyrfa, y rhwystrau rydw i wedi’u goresgyn a’r rhai sydd wedi fy ysbrydoli. Ond yng ngoleuni digwyddiadau'r byd, nid yw'n teimlo'n iawn. Ydw, rydw i wedi gweithio'n galed i gyrraedd yma ac fel llawer ohonoch chi, rydw i wedi wynebu rhwystrau, siomedigaethau ac ar adegau, gwahaniaethu. Ond nid oedd yn rhaid i mi ymladd am fy addysg. Nid oedd yn rhaid i mi adael fy nghartref yn ystod rhyfel. Rydw i wedi bod yn ffodus fy mod wedi cael fy nal a’m cefnogi gan ffrindiau, teulu a’r menywod cryf, galluog sydd wedi dod o fy mlaen.

Efallai nawr, yn fwy nag erioed, bod neges #breakthebias o’r pwys mwyaf. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd tuag at fyd sy'n rhydd o ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu. Efallai y byddwn yn teimlo ychydig yn ddiymadferth wrth edrych ar newyddion y byd. Ond gallwn wneud gwahaniaeth i'r rhai yr ydym mewn cysylltiad â nhw, bob dydd. Ac i mi mae hynny’n cynnwys helpu’r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr i wireddu eu gwerth ac i gyrraedd eu potensial. Yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg, rydym yn gweithio'n galed i gefnogi a hyfforddi ein staff. Rydym yn sefydliad sy'n seiliedig ar werthoedd ac rydym yn poeni mwy am sut rydych chi'n trin pobl nag i ba brifysgol yr aethoch iddi. I dorri'r rhagfarn (#breakthebias) rwy'n cynnig fy mhrofiad, gwybodaeth ac arweiniad i unrhyw un y'i gwelir yn ddefnyddiol. Cysylltwch trwy LinkedIn neu Twitter a gadewch i ni gael coffi.

 

“Byddwch Chi” gan Rhiannon James, 12 oed – merch Pretty James, Ysgrifennydd Tîm Anafiadau Personol

Rydych chi'n brydferth.

Rydych chi'n gryf, yn smart, yn feiddgar,

Rydych chi'n unigryw

Nid ydych yn ddi-werth ac nid yn llai

Nid ydych chi'n 'cover girl' fel y'i gelwir, does neb

Mae gen ti lais.

Peidiwch byth â gadael i gymdeithas eich tawelu

Rydych chi'n gwybod bod harddwch yn mynd yn ddyfnach na'r wyneb

Nid chi yw'r chi o'r dyfodol

Na chi o'r gorffennol,

Mae bywyd yn fyr, felly bywhewch ef fel chi

Nid y chi ffug.

 

“Eich breuddwyd, eich gweledigaeth sy'n perthyn i chi. Gwelwch eich anawsterau nid fel diwedd, ond fel cyfle i roi cynnig arall arni. Nid faint o weithiau y cefais fy nharo i lawr oedd y wers, ond sut y codais i.” – I. Stephanie Boyce, Llywydd Cymdeithas y Gyfraith

 

Liz Dawson, Arweinydd Tîm Esgeuluster Clinigol Betsi Cadwaladr

“Yn anghredadwy fel y mae, rydw i wedi cymhwyso ers 21 mlynedd eleni sydd wedi pasio mewn amrantiad llygad. 21 mlynedd yn ôl roedd y proffesiwn yn dal i fod yn wrywaidd iawn. Wrth fynd am gyfweliadau cytundeb hyfforddi, yn aml yn erbyn pobl roeddwn i yn y brifysgol gyda nhw, roedd y dynion i'w gweld yn cael eu bachu'n llawer cyflymach! Roeddwn yn ffodus wedyn i sicrhau cytundeb hyfforddi gyda Gwasanaethau Cyfreithiol Iechyd Cymru fel yr oeddem bryd hynny. Sefydliad uchel ei barch gyda menyw flaengar wrth y llyw. Yn wir, aeth y sefydliad hwn yn groes i'r tueddiadau gyda chyfran sylweddol o'r staff yn fenywod. Er bod hynny wedi newid a’n bod, yn gwbl briodol, yn dod yn sefydliad llawer mwy amrywiol ym mhob ffordd, mae Cyfreithiol a Risg wastad wedi cefnogi ac annog staff benywaidd ac yn sicrhau bod cyfleoedd yn bodoli. Boed i hyn barhau wrth i ni ehangu ymhellach a chroesawu amrywiaeth a chynwysoldeb o bob math.”

 

“Mae menywod yn perthyn ym mhob man lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Ni ddylai menywod fod yn eithriad." - Ruth Bader Ginsburg

 

Angharad Wynford Thomas, Cyfreithiwr ac Eiriolwr CILEx

“Mae dros 102 mlynedd ers i fenywod gael yr hawl gyfreithiol i ymarfer fel cyfreithwyr ac mae cynnydd wedi’i wneud yn y cyfnod hwn, ond mae dynion yn dal i ddal y mwyafrif o swyddi uwch yn y proffesiwn er bod mwy o fenywod na dynion ar lefel mynediad. Dylai cenhadaeth I. Stephanie Boyce i adael y proffesiwn yn un mwy amrywiol a chynhwysol na’r un y ymunodd â hi gael ei mabwysiadu gennym ni i gyd os ydym am weld newid gwirioneddol, cadarnhaol ar gyfer cydraddoldeb. Mae llawer mwy o nenfydau gwydr i ni eu torri.”

 

Sioned Eurig, Arweinydd Tîm Cyflogaeth

“Breuddwydiwch yn fawr, cadwch ffocws a gwnewch iddo ddigwydd!” Dydw i ddim yn gwybod pwy ddywedodd hynny - ond dyna sut rydw i'n ceisio byw fy mywyd! Ac roedd arwain Tîm Cyflogaeth GIG Cymru yn sicr yn freuddwyd fawr i mi. Daeth y cyfle ychydig yn gynt nag yr oeddwn yn ei ragweld ond gosodais fy ngolygon ar y nod hwnnw a gweithio mor galed ag y gallwn i'w gyflawni. Rwy'n teimlo mor ffodus i garu fy ngwaith a chael arwain tîm anhygoel o bobl a gweithio gyda chleientiaid gwych. Rwy’n cael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a siapio pethau er gwell yn y GIG yng Nghymru – mae’r gwaith yn gyffrous ac mae’r cyfleoedd i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi heb eu hail. Roedd y gwaith caled i gyrraedd yma yn bendant gwerth chweil.

Er bod gyrfa lwyddiannus a gwerth chweil wedi bod yn bwysig i mi erioed, felly hefyd mae cael teulu. A byddwn yn anghytuno'n gryf ag unrhyw syniad na allwch chi gael y ddau - nid ydyn nhw'n annibynnol i'w gilydd fel y byddai rhai yn ceisio ei awgrymu. Yn wir, mae fy nhîm ‘cartref’ bach yn rhan fawr o unrhyw lwyddiant yr wyf yn ei gyflawni’n broffesiynol ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel teulu i sicrhau ein bod yn taro’r cydbwysedd cywir. Chwaraeodd y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ran allweddol hefyd wrth gefnogi hynny. Rwy’n dal i gofio fy nghyfweliad cyntaf gyda L&R pan ddywedwyd wrthyf am y darpariaethau absenoldeb a thâl mamolaeth – roedd yn amlwg bod hwn yn gyflogwr a oedd yn hapus i’ch cefnogi i gyflawni nodau yn eich bywyd personol yn ogystal ag yn eich bywyd proffesiynol. Roedd yn teimlo fel lle gwych i weithio ar unwaith ac nid yw wedi fy siomi ers hynny! Llwyddais i gymryd absenoldeb mamolaeth llawn ddwywaith rhwng 2016 a 2018, ac er fy mod yn teimlo ychydig fel ‘y ferch newydd’ eto ar ôl dychwelyd, cefais gefnogaeth ac anogaeth dda i ddilyn a datblygu fy uchelgeisiau. Felly i mi, yn sicr nid yw wedi bod yn achos o orfod dewis rhwng gyrfa a teulu – dwi’n cyfuno’r ddau yn llwyddiannus (er fel y rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio, dwi’n cyfaddef bod yna adegau pan mae gwydraid neu ddau o win yn dod yn handi – nid yn ystod oriau gwaith wrth gwrs!)

Pe bawn i'n rhoi dau ddarn o gyngor i fy hunan iau byddai'n rhaid dweud i beidio â difaru unrhywbeth! Peidiwch âg ofni codi llais, peidiwch â bod ofn siglo'r cwch a herio barn pobl eraill - neith gwneud hynny hyrwyddo newid iach a diwylliant gwell i bawb. Gallaf edrych yn ôl nawr a meddwl am adegau pan oeddwn yn rhy nerfus neu'n poeni am siarad allan, ond rwyf wedi datblygu'r hyder i gamu i fyny a gwneud yn siŵr fy mod yn dweud fy marn. Byddwch nid yn unig yn cael eich parchu gan eraill am wneud hynny ond hefyd yn teimlo ymdeimlad o hunan-rymuso. Yr ail ddarn o gyngor yw meddwl am y ffordd rydych chi'n dod ar draws ac i sicrhau eich bod yn herio neu siarad lan mewn ffordd caredig a thosturiol bob amser. O brofiad mae hyn bron bob tro yn cyflawni canlyniad gwell. Cofiwch, mae bod yn angerddol yn beth da!”

 

“Rydyn ni'n edrych ychydig yn wahanol, fe ddylen ni edrych ychydig yn wahanol, efallai ein bod ni'n swnio ychydig yn wahanol ac rydw i'n meddwl bod yna rai achosion lle mae'n bosibl bod gennym ni fwy o ddealltwriaeth o ble mae pobl yn dod, o bosibl nag y byddai'r mwyafrif o ddynion.”Arglwyddes Hale

 

Kara Bowen, Cyfreithiwr

"Hapusrwydd yw gadael yr hyn rydych chi'n meddwl mae eich rhediad i fod a dathlu eich bod chi wedi rhedeg heddiw” "des i ar ei draws wrth ymdrechu i fynd allan o'r drws i fynd i parkrun ddydd Sadwrn a dyna'n union oedd angen i mi ei weld! Postiais ef ar fy nhudalen rhedwyr lleol ac atebodd merch ei bod wedi ei gweld a’i bod bellach yn clymu careiau ei hesgidiau! Daeth hi draw (ar ôl peidio mynd ers misoedd) a rhedon ni (wel plodio dipyn a sgwrsio os dwi'n onest haha) yr holl ffordd o gwmpas gyda'n gilydd, roedd yn ffantastig a dywedodd y ddau ohonom ar y diwedd na allem fod wedi gwneud fe heb y llall."

 

“Heb lamau o ddychymyg, na breuddwydio, rydyn ni’n colli cyffro’r posibiliadau. Mae breuddwydio, wedi’r cyfan, yn fath o gynllunio.” - Gloria Steinman

 

Heather Grimbaldeston, Arweinydd Tîm Esgeuluster Clinigol Gofal Sylfaenol

“Fi oedd y fenyw gyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol ac i ddilyn gyrfa yn y gyfraith. Rwy'n ferch o Sir Gaerhirfryn ac nid oedd gennyf unrhyw gysylltiadau â'r byd cyfreithiol. Roeddwn i'n benderfynol ond roeddwn i'n meddwl weithiau y byddwn i byth yn dod yn gyfreithiwr gan ei fod yn teimlo fel amgylchedd mor gystadleuol. Cefais lawer o lythyrau gwrthod cyn i mi gael fy swydd gyntaf yn Llundain. Ers hynny rydw i wedi cael fy ysbrydoli bob dydd gan fenywod yn y gwaith sydd wedi fy nghefnogi a dangos i mi sut i ddatblygu a llwyddo. Gweithiais fel Partner mewn practis preifat cyn symud i Gymru gyda fy nheulu ifanc i ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Rwy'n mwynhau gweithio yma yn fawr. A oes cyngor y byddwn i'n ei roi i fy hunan iau? Oes - byddwch yn hyderus a dathlwch eich gwahaniaethau. Mewn gwirionedd mae'n ymwneud â meithrin perthnasoedd â phobl eraill gan gynnwys cydweithwyr a chleientiaid. Mae llawer mwy diddorol ei wneud fel chi’ch hun – yn cynnwys y rhannau rhyfedd.”

 

Dolenni Cysylltiedig:

Women in Law Cardiff Grŵp Facebook – A reolir gan Angharad Wynford-Thomas

https://m.facebook.com/groups/758818118415328/?refid=18&__tn__=C-R

Women in the Law Deyrnas Unedig https://www.womeninthelawuk.com/

Cylchgrawn Legal Women http://www.legalwomen.org.uk/