Y bore yma, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mai Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fydd yn gweithredu’r cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth i feddygon teulu yng Nghymru mewn perthynas â hawliadau esgeulustod clinigol o fis Ebrill 2019 (sef Cynllun Rhwymedigaethau’r Dyfodol).
Rydym ni’n edrych ymlaen at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i feddygon teulu yng Nghymru, fydd yn adeiladu ar ein llwyddiant wrth ddarparu indemniad gofal eilaidd.
Dilynwch y dolenni canlynol i weld yr hysbysiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru a’r datganiad ysgrifenedig gan Vaughan Gething:
Datganiad ysgrifenedig:
Hysbysiad i’r wasg: