Trwy gofleidio technoleg a chydweithio â chyrff GIG Cymru, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, cyfreithwyr allanol a rhanddeiliaid eraill, mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC wedi gallu sicrhau parhad ein gwasanaethau cyfreithiol cynhwysfawr i GIG Cymru.
Yn naturiol, mae’n ofynnol i staff clinigol rheng flaen, arbenigwyr ac unigolion eraill sy'n ymwneud â hawliadau cyfreithiol ganolbwyntio eu sgiliau ar ddarparu gofal iechyd hanfodol ar yr adeg hon. Mae hyn o reidrwydd yn amharu ar allu partïon ar ddwy ochr hawliadau cyfreithiol i symud ymlaen â materion a bydd yn parhau i wneud hynny am gryn amser.
Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda'r holl randdeiliaid sy'n ymwneud â hawliadau cyfreithiol i symud materion ymlaen mor gydweithredol a hyblyg ag y gallwn yng ngoleuni'r heriau a achosir gan bandemig COVID-19.