Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Datblygu Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg

 

Mynychodd Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Ddiwrnod Datblygu ddoe a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd. Roedd y diwrnod yn cynnwys siaradwyr mewnol ac allanol ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys:

  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr - cymorth a lles y sydd ar gael i staff
  • Diweddariad NWSSP gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Neil Frow
  • Diogelwch seiber gyda Nick Lewis, Rheolwr Diogelwch TG, NWSSP
  • Cyfarfod Chwemisol Cyfreithwyr yn trafod gwersi a ddysgwyd a chanlyniadau achosion diweddar
  • Hyfforddiant Excel i'r holl staff cefnogol
  • Cyfleoedd Dysgu a Datblygu
  • Buddion Cyfryngau Cymdeithasol

Roedd cyfle hefyd i aelodau'r staff rwydweithio â phobl mewn meysydd eraill o'r sefydliad. Rhoddodd Anne-Louise Ferguson, y Cyfarwyddwr, y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau arolwg staff diweddar yn ogystal â diolch i siaradwyr y dydd. Derbyniwyd adborth staff yn barod a bydd yn cael ei roi tuag at gynllunio'r Diwrnod Datblygiad nesaf.