Cawsom nifer fawr o bobl allan ar gyfer ein 4ydd Diwrnod Datblygu Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yr wythnos diwethaf. Roeddem yn ddigon ffodus i gael anerchiad agoriadol gan Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru a alwodd Legal & Risk yn “cog allweddol yn yr olwyn o wella ansawdd yn GIG Cymru”, a dywedodd “Mae'n bwysig fod gennym ein gallu a'n harbenigedd ein hunain o fewn y GIG ... rydych chi'n cyflawni'r rôl hon yn broffesiynol ac yn effeithiol ”, canmoliaeth wych am y gwaith a gyflawnwyd eisoes gan Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.
Yn dilyn Andrew, oedd ddiweddariad PCGC gan Andy Butler, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol PCGC, a’n hatgoffodd mai ni yw “darparwr dewis GIG Cymru”. Dywedodd hefyd ein bod yn “darparu gwasanaethau effeithlon o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar werth”, a bod “Ymestyn eich gwasanaethau wedi arwain at arbedion sylweddol i’r GIG yng Nghymru”.
Mewn gweithdy a gynhaliwyd gan Alison Phillips a Rhiannon Windsor, cawsom gyfle i feddwl yn ddyfnach am y ffyrdd yr ydym yn ymgorffori ein gwerthoedd corfforaethol yn y gwaith a wnawn bob dydd, a sut yr ydym yn teimlo y gallent gael eu hymgorffori ymhellach wrth symud ymlaen. Diolchwn i Fran O’Hara o Scarlett Designs a fynychodd y sesiwn hon ac a ddaliodd ein trafodaethau ynghylch sut rydym yn byw ein gwerthoedd. Ni allwn aros i weld y dyluniad gorffenedig!
Dechreuodd y prynhawn gyda diweddariadau gan rai o'n Timau yn trafod pynciau llosg ym mhob maes o'r gyfraith a rhannu arfer gorau a'r gwersi a ddysgwyd, yna diweddariad ar y newidiadau i god ymddygiad yr SRA gan Paul Veysey, a gorffen y diwrnod gyda hyfforddiant ar reoli straen, a oedd yn cynnwys gwybodaeth ar y ffyrdd y mae straen yn effeithio arnom yn emosiynol ac yn gorfforol, a rhai awgrymiadau ar gyfer rheoli straen.
Er nad oedd Anne-Louise yn gallu mynychu yn bersonol, fe gyflwynodd ei sylwadau cloi trwy fideo, gan grynhoi rhai o themâu'r dydd ac annog pawb i gymryd rhan yn ein grŵp ymgysylltu â staff a'n cynllun cydnabod staff.
Rydym yn edrych ymlaen at sgyrsiau mwy diddorol yn ein Diwrnod Datblygu nesaf yn y flwyddyn newydd!