Rydym wrth ein bodd i bod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ffocws ar Gwsmeriaid yng Ngwobrau Cyfreithiol Lexis Nexis UK 2022. Dyma’r tro cyntaf i’r adran gael ei henwebu ar gyfer y gwobrau hyn, ac rydym yn falch iawn i fod ar y rhestr fer mewn categori gwasanaeth cwsmeriaid yn dilyn yr heriau sy’n wynebu’r GIG dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn brif flaenoriaeth i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC. Ar ôl cael ein hachredu gyda'r Wobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer ers 2013, rydym yn gweithio i gynnal diwylliant sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar draws yr adran. O gyfuno hyn â’n gwybodaeth arbenigol am y materion cyfreithiol sy’n effeithio ar GIG Cymru, credwn ein bod yn ddigyffelyb o ran darparu gwasanaethau cyfreithiol cynhwysfawr i’n cleientiaid mewn Byrddau Iechyd ledled Cymru. Mae ein cynhwysiad ar y rhestr fer Gwobr Ffocws Cwsmer yn gydnabyddiaeth o waith caled pawb yn ein timau i sicrhau bod Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn bodloni ac yn rhagori ar ddisgwyliadau ein cleientiaid.
Dymunwn yn dda i bawb sydd ar restr fer Gwobrau Cyfreithiol Lexis Nexis UK 2022 ac edrychwn ymlaen at ddathlu talent ragorol ar draws y sector cyfreithiol.
Gair o ein Cyfarwyddwr, Mark Harris -
“Rwyf wrth fy modd gyda’r newyddion cyffrous ein bod wedi cael ein cydnabod yng Ngwobrau Cyfreithiol Lexis Nexis UK 2022 ar restr fer y Wobr am Ffocws ar Gwsmeriaid. Mae ein holl dimau, gan weithio mewn partneriaeth â phob un o gyrff y GIG yng Nghymru, wedi bod yn gweithio’n hynod o galed i sicrhau a gwella’n barhaus ansawdd a gwydnwch ein gwasanaethau. Mae’r berthynas rhwng ein staff a’n cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn, felly mae’n wych i bod ar restr fer gwobr yn y categori hwn.”