Roedd yr wythnos diwethaf yn un prysur i'n Tîm Cyflogaeth a oedd yn mynychu dwy seremoni wobrwyo wahanol, ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 'Tîm Mewnol y Flwyddyn' yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru, ac ar gyfer 'Gwasanaeth Cyflogaeth y Flwyddyn' yng Ngwobrau Cyfraith De Cymru. Dyfarnwyd 'Cyfreithiwr y Flwyddyn’ i Daniela Mahapatra, Arweinydd y Tîm Cyflogaeth yng Ngwobrau Cyfraith De Cymru nos Fercher, a oedd yn haeddiannol iawn ac yn cynrychioli'r gwaith gwych y mae hi a'i thîm wedi'i gwblhau dros y flwyddyn ddiwethaf.