Ddydd Llun y 4ydd o Fehefin, death yr Athro Dominic Regan i Gaerdydd i ddarparu hyfforddiant i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg. Yn rhan o’r cyflwyniad rhoddodd ddiweddariad am Gyfraith Sifil, ac aeth i’r afael yn benodol â rheolaeth cost ac â’r gyfraith bresennol ynghylch atebolrwydd dirprwyol.
Cynhaliwyd yr hyfforddiant yng nghanolfan yr Holl Genhedloedd. Roedd yn braf bod allan o’r swyddfa ac roedd modd i bawb ganolbwyntio’n llawn ar y cyflwyniad. Daeth pawb yn llu ac roedd pob un o’r rhai a fynychodd wrth ei fodd. Hoffai pawb yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg ddiolch i’r Athro Regan am deithio i Gaerdydd i ddarparu’r hyfforddiant, ac am y cyngor amhrisiadwy bod y Pinot Noir Ffrengig yn Aldi yn fargen!