Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Gwnaethom anfon llond llaw o’n Cyfreithwyr iau a’n Paragyfreithwyr mewnol i St John’s Chambers ym Mryste i fynychu eu digwyddiad blynyddol, sef 'The Essential Toolkit for Junior Personal Injury & Clinical Negligence Lawyers’. Roedd yn ddiwrnod llawn darlithoedd rhyngweithiol a sesiynau grŵp, gyda digon o egwyliau coffi i gyfarfod â’r trefnwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill yn y maes. Mwynhaodd ein cynrychiolwyr y sesiwn ‘Datgelu Cyllidebau Costau’ yn enwedig, a oedd yn cynnwys ffug berfformiad bywiog y Gynhadledd Rheoli Achos a Chostau!