Hoffai Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg longyfarch ein cyfreithiwr Adam Leith a benodwyd yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth, a neilltuwyd i Gylchdaith Cymru, o 18 Mai 2020. Fe'i penodwyd hefyd yn Farnwr sy’n Derbyn Ffi yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf, wedi’i aseinio i'r Siambr Mewnfudo a Lloches, o 28 Mai 2020.
Mae'r broses ddethol ar gyfer y swyddi mawr eu bri hyn yn drylwyr ac mae'n cynnwys profion ar-lein, ffug wrandawiadau a chyfweliadau. Rydym yn hynod falch y bydd Adam yn ymgymryd â’r ddwy rôl yn rhan amser, ac y bydd yn parhau i weithio yn ein Tîm Cyflogaeth ochr yn ochr â nhw.