Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Cyfarwyddwr Anne-Louise Ferguson MBE wedi cyrraedd rhestr fer 'Cyfreithiwr y Flwyddyn - Mewnol' a 'Chyfreithwraig y Flwyddyn' yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas y Gyfraith 2019, yr anrhydedd uchaf y gall cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ei gyrraedd. Mae hi wedi gweithio'n ddiflino dros y blynyddoedd, gan arwain y sefydliad er 1996, gan ei dyfu o 30 i fwy na 100 o staff, ac mae hi wedi ehangu'r ystod o wasanaethau cyfreithiol er mwyn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i GIG Cymru. Mae ei gweledigaeth a'i hymrwymiad wedi ysgogi Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg i ddod yn dîm cyfreithiol mewnol rhagorol a gydnabyddir yn genedlaethol ac mae Anne-Louise yn uchel ei pharch, fel cyfreithiwr ac fel arweinydd yn y GIG.
Pan benderfynom enwebu Anne-Louise, gofynnom i gydweithwyr roi tystebau, ac roedd y gefnogaeth a gawsom yn anhygoel. Roedd gan nid yn unig y bobl sydd wedi gweithio ochr yn ochr â hi, y rheiny sydd wedi cael eu rheoli a'u mentora ganddi ond hefyd y rheiny sydd wedi sefyll gyferbyn â hi yn y llys i gyd bethau positif i'w dweud am ei gwaith caled, ei phroffesiynoldeb a'i gwybodaeth fanwl o'r gyfraith.
Meddai Simon Davis, Llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr: “Mae dros 140,000 o gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr - mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth yn golygu eich bod yn cael eich cydnabod yn un o’r goreuon yn y proffesiwn.
“Dylai’r cwmnïau a’r cyfreithwyr ar y rhestr fer gael eu canmol am wneud eu gorau glas i gefnogi eu cleientiaid, gan y bydd rhaid iddynt ystyried meysydd astrus a dadleuol yn y gyfraith.
“Gyda'r system gyfiawnder o dan gymaint o bwysau, dylem achub ar y cyfle hwn i ddathlu'r gwaith anhygoel y mae cyfreithwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd - ac i gydnabod y cyfraniad enfawr y maent yn ei wneud i'n cymdeithas.”
Dywedodd Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC): “Hoffwn longyfarch Anne-Louise Ferguson MBE, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, yn dilyn y cyhoeddiad ei bod wedi cyrraedd rhestr fer Cyfreithiwr y Flwyddyn – Mewnol, a Chyfreithwraig y Flwyddyn fel rhan o Wobreuon Cymdeithas y Cyfreithwyr 2019. Mae Anne-Louise wedi chwarae rhan allweddol yn nhaith PCGC i fod yn wasanaeth o safon fyd-eang sy’n cefnogi GIG Cymru. Mae ei phroffesiynoldeb a’i hymrwymiad wedi cael effaith gadarnhaol o fewn ei maes(meysydd) gwasanaeth ac rwyf wrth fy modd bod Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr wedi cydnabod hyn.”
Wrth gwrs, rydym yn falch iawn dros Anne-Louise ac yn dymuno'r gorau iddi yn y seremoni Wobrwyo ym mis Hydref lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.