Lexcel
Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi llwyddo i gadw eu Marc Ansawdd Ymarfer Cyfreithiol Lexcel. Cyflwynir y wobr am gyrraedd safonau uchel o ofal cleientiaid, rheoli risg a chanlyniadau effeithiol ar faterion ffeiliau cyfreithiol. Credir mai dim ond 14% o bractisau cyfreithiol sy'n derbyn Marc-Siart Lexcel Cymdeithas y Gyfraith, yn cynnwys cwmnïau cyfreithiol preifat a thimau cyfreithiol mewnol. Yn dilyn archwiliad trylwyr o bolisïau, arferion a pherfformiad, nododd adroddiad Lexcel: “Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn parhau i fod yn esiampl rhagorol o safonau Lexcel, gan ddangos yn amlwg sut mae gofynion a disgwyliadau'r marc ansawdd wedi'u plethu i wead ei weithrediadau i alluogi gwasanaeth cyfreithiol o'r radd flaenaf i'r GIG yng Nghymru."
Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer
Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg hefyd wedi cael eu hachredu gyda'r wobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer (CSE) i gydnabod ei ymrwymiad i roi cwsmeriaid wrth galon eu gwasanaeth. Nododd yr asesydd yn ei adroddiad “Cafwyd ymateb rhagorol gan gleientiaid / cwsmeriaid i’r heriau a’r galwadau niferus ac amrywiol a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19. Mae'r gwasanaeth yn bendant wedi mynd yr ail filltir ac wedi codi i ofynion ychwanegol ac anghenion cleientiaid am amseroldeb ac ansawdd y gwasanaeth ar yr adeg anodd hon."
Yn ystod yr asesiad dyfarnodd yr asesydd 3 sgôr cydymffurfio plws. Dyfernir y rhain am ymddygiadau neu arferion sy'n rhagori ar ofynion y safon ac a ystyrir yn eithriadol neu fel esiampl i eraill. Dyfarnwyd y rhain am:
Mae adborth cleientiaid i'r asesydd yn cynnwys sylwadau fel:
“Mae ansawdd y cyngor rydyn ni'n ei dderbyn o'r radd flaenaf. Mae o ansawdd uchel ac yn fuddiol. Maent wedi tyfu'r sgiliau i ddelio â'r materion mwy cymhleth sydd bellach yn destun iddynt”
“Maen nhw'n mynd y tu hwnt i'r gwasanaeth cleientiaid arferol. Maent yn aml yn codi y tu hwnt i'r disgwyl. Dwi erioed wedi teimlo bod unrhyw ymateb yn is na phar.”
“Gwasanaeth rhagorol. Cydweithredol ac yn barod i rannu gyda'r meddylfryd a'r ethos gorau i gyflawni pethau."
Dywedodd Mark Harris, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg: "Mewn blwyddyn anhygoel o heriol, bu ein ffocws ar Wasanaethau Cyfreithiol a Risg a Phwll Risg Cymru ar ansawdd ein gwasanaethau a lles ein staff. Mae canlyniad ein archwiliadau Lexcel a CSE yn dyst i hyn, i’n staff gwych ac i’w gwaith anhygoel o galed. Da iawn a diolch enfawr i bawb.”