Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn parhau i leihau'r costau sy'n cael eu talu i gyfreithwyr hawlwyr

 

Mewn hawliad lle talwyd iawndal o £450,000, cyflwynwyd Bil Costau hefyd o £181,000. Er nad oedd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf fod y swm hwnnw’n anghymesur, wrth ystyried yr iawndal a dalwyd, roedd hwn yn achos lle cafwyd addefi ad o atebolrwydd yn gynnar.

Heriodd y diffynnydd y costau hyn, ac archwiliodd agweddau ar yr hawliad oedd ym marn y diffi nydd yn ddiangen. O’r herwydd, roedd y diffynnydd o’r farn na ddylid talu eu costau. Talwyd £75,000 i setlo’r achos, sef rhyw 40% o’r swm gwreiddiol. Yn gynharach eleni, derbyniwyd bil oedd yn hawlio £311,000. Ar ô trafodaethau a dadleuon hirfaith, lle penderfynodd yr hawlydd gyfarwyddo cwmni o gyfreithwyr yn Llundain am raddfa fesul awr ddrud iawn, setlwyd yr achos â£205,000. Dyma ostyngiad o £106,000, sef 33%. Mewn trydydd achos, cyfl wynodd yr hawlydd Fil Costau oedd yn ymwneud âmaterion atebolrwydd yn unig. Cafodd y mater ei setlo yn fuan wedi hynny, a derbyniwyd bil arall oedd yn hawlio costau cwantwm. Y cyfanswm a hawliwyd oedd £296,733.47. Nid oedd yr ail fi l yn dilyn y rheolau, ac ar ô pum ymgais i unioni’r sefyllfa, cynghorwyd y Bwrdd Iechyd i ofyn i’r Llys wrthod rhan o hawliad yr hawlydd neu’r hawliad yn ei gyfanrwydd ac adfer y costau yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi eu gwastraffu. Yn dilyn hynny, cytunodd yr hawlydd i dderbyn £232,000, oedd yn ostyngiad o £72,000.