Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddi llyfrau

ILBF logo

Ar ôl twtio ein llyfrgell rhyw ychydig, rydym ni wedi rhoi rhai o’n gwerslyfrau cyfreithiol i’r International Law Book Facility, sy’n gwneud gwaith gwych yn darparu llyfrau cyfreithiol ail-law o ansawdd da i sefydliadau nid-am-elw ledled y byd, y mae angen adnoddau ymchwil cyfreithiol arnynt.

Ers 2005, mae’r International Law Book Facility wedi anfon dros 53,000 o lyfrau i fwy na 190 o sefydliadau nid-am-elw mewn 51 o wledydd dros Affrica, De America, y Caribî, Ewrop a’r Pasiffig. Os oes gennych unrhyw werslyfrau cyfreithiol nad oes eu hangen arnoch mwyach, byddem yn eich annog i’w rhoi iddynt, fel y gwnaethom ni, fel y gall pobl barhau i wneud defnydd ohonynt ledled y byd.

Gallwch fynd i wefan yr International Law Book Facility yma: https://ilbf.org.uk/

Neu gwyliwch eu stori ar YouTube yma: https://www.youtube.com/watch?v=kHMBLlqo-1M&feature=youtu.be