Hysbysiad pwysig: Ffioedd dysgu a chyllid bwrsariaeth GIG Cymru
Rydym yn ymwybodol bod rhai myfyrwyr rhaglenni gofal iechyd cyn-gofrestru wedi cael eu cynghori ar gam y bydd angen iddynt gyfrannu tuag at eu ffioedd dysgu. Hoffem dawelu meddwl pob ymgeisydd , nid yw hyn yn wir.
Os ydych yn cael eich ariannu drwy gynllun bwrsariaeth GIG Cymru a gyda lle ar raglen gofal iechyd proffesiynol cyn-gofrestru a gomisiynwyd, bydd eich ffioedd dysgu llawn yn cael eu talu fel rhan o'ch pecyn bwrsariaeth.
Os ydych chi'n bwriadu astudio cwrs nyrsio / bydwreigiaeth / gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd (AHP), bydd gofyn i chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am gyfnod ar ôl cwblhau eich astudiaethau.
Ar gyfer cwrs 3 blynedd, mae'n ymrwymiad 2 flynedd, ac ar gyfer cwrs 2 flynedd, mae'n 18 mis. Darllenwch ein telerau ac amodau sydd i'w gweld ar y dudalen Gwneud Cais am Fwrsariaeth cyn cychwyn eich cais.
Os ydych chi'n bwriadu mynd yn feddyg neu'n ddeintydd, nid yw'n ofynnol i chi ymrwymo i'r telerau ac amodau hyn.
Dilynwch y broses isod i gychwyn eich Taith Myfyriwr o'r fwrsariaeth i gyflogaeth.
Os ydych yn derbyn cyllid bwrsariaeth y GIG ar hyn o bryd ac yn dymuno cael mynediad i’ch cyfrif Bwrsariaeth, cliciwch ar y system olrhain isod neu os hoffech ailymgeisio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais am Fwrsariaeth’ ar daith y myfyriwr isod.