Annwyl Ymgeisydd,
Rydym wrth ein bodd eich bod â diddordeb yn y rôl arweinyddiaeth genedlaethol ganolog a chyffrous hon ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC).
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gadeirydd dylanwadol ymuno â PCGC wrth i ni barhau i gryfhau sut rydym yn gweithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ledled Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain sefydliad sy'n cyflawni datblygiadau mawr ledled GIG Cymru, ac sy’n darparu ystod eang o wasanaethau o ansawdd uchel i Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig, yn ogystal â darparwyr gofal sylfaenol ehangach.
Mae ein perthnasoedd wrth wraidd popeth a wnawn, gyda'r cyhoedd, gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, gyda llunwyr polisi, a chyda Llywodraeth Cymru. Er mwyn llwyddo yn y rôl hon, byddwch yn arddangos ymddygiadau enghreifftiol, deallusrwydd emosiynol, a sgiliau dylanwadu craff i feithrin partneriaethau cydweithredol a fydd yn sbarduno gweithredu trawsnewidiol ar y cyd ac yn cefnogi Cymru iachach a mwy cynaliadwy.
Byddwch yn ymuno â sefydliad uchelgeisiol, agored ac arloesol y mae oddeutu 6,300 o gydweithwyr talentog yn gweithio iddo, ac mae’r gwaith hwnnw’n cwmpasu pob cwr o GIG Cymru. Mae ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Arloesi, Gweithio Gyda'n Gilydd, a Chymryd Cyfrifoldeb — yn arwain sut rydym yn gweithredu a'r hyn rydym yn ei gynrychioli. Gydag amgylchedd bywiog sy’n galluogi, credwn fod Cymru mewn sefyllfa unigryw i drawsnewid iechyd a llesiant ei phoblogaeth, a hynny yn gyflym.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at arweinyddiaeth y sefydliad cyffrous hwn, a gweithio gyda ni i barhau i ymgorffori ein dulliau arloesol i wella iechyd y boblogaeth ar draws pob sector, yna mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod y cyfle ymhellach.
Darperir rhagor o wybodaeth amdanom ni yn y pecyn sydd ynghlwm.
Penodi cadeirydd – pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr