Nodwch: Mae'r broses hon ar gyfer gweithwyr PCGC yn unig.
Yn agor: 2 Chwefror 2026
Yn cau: 27 Chwefror 2026
Balansau ESR: Bydd lwfansau wedi'u diweddaru yn ymddangos ar ESR ym mis Ebrill 2026
Yn agor: 2 Mawrth 2026
Yn cau: 31 Mawrth 2026
Balansau ESR: Bydd lwfansau wedi'u diweddaru yn ymddangos ar ESR ym mis Mai 2026
Y Camau Nesaf
Dylai pob rheolwr llinell ddechrau sgyrsiau gyda'u timau, a deall pa absenoldeb sydd ar ôl. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn gyda phrosesau a ffurflenni.
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch partner busnes Pobl a Datblygu Sefydliadol yn uniongyrchol neu drwy gyfrif e-bost Pobl a Datblygu Sefydliadol: nwssp.peopleandOD@wales.nhs.uk
Enghraifft.
Cofiwch, dangosir eich balans mewn oriau nid dyddiau. Os yw hyn yn dal yn anghywir, gallwch gysylltu â'n tîm ESR – eAteb@wales.nhs.uk
Gallwch weld hyn yn fy absenoldeb – balansau hawliau yn ESR.
Oes, ond dim ond os ydynt yn digwydd ar ddiwrnodau pan fyddai disgwyl i chi weithio.
Ydy, mae gwyliau banc yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn eich balans a dylid eu harchebu i ffwrdd os ydyn nhw'n disgyn ar ddiwrnod gwaith.
Yn gyntaf, cysylltwch â'ch Cysylltiadau Gwasanaethau’r Is-adran i gadarnhau bod yr oriau cywir wedi'u cyflwyno a'u derbyn.
Yna byddant yn cysylltu â Phobl a Datblygu Sefydliadol i wirio'r manylion a'ch cynghori ar y camau nesaf sydd eu hangen.
Bydd y balans cario drosodd yn dangos ar ESR ym mis Mai 2026.
Bydd y balans gwyliau a brynwyd yn ymddangos ym mis Ebrill 2026.
Hwb cymorth ESR ar gyfer problemau balans - eAteb - Cefnogi Systemau Pobl Digidol yng Nghymru
Cyflogres ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â didyniadau a chyflog NWSSP.PayrollSharedServices@wales.nhs.uk
Partner busnes ar gyfer arweiniad ar bolisi – nwssp.peopleandod@Wales.nhs.uk
Na, ni fydd prynu gwyliau blynyddol yn effeithio ar eich pensiwn.
Mae'r cyfrifiad yn seiliedig ar y gyfradd fesul awr ar adeg y cais ac ni fydd yn cael ei diwygio'n ôl-weithredol.
Ni fydd hyn yn cael effaith ar yr oriau a brynwyd na'r swm a ddidynnir. Mae'r cyfrifiad yn seiliedig ar y gyfradd fesul awr ar adeg y cais ac ni fydd yn cael ei diwygio.
Nid oes darpariaeth i drosglwyddo'r absenoldeb a brynwyd i Sefydliad GIG arall felly byddai angen i chi ail-ymgeisio yn y rôl newydd.
Bydd angen i'ch rheolwr roi gwybod i'r Adran Gyflogres faint o wyliau blynyddol sy'n weddill neu heb eu talu. Os oes balans positif, sy'n cynnwys gwyliau a brynwyd, bydd angen i chi gytuno â'ch rheolwr i gymryd yr absenoldeb os yn bosibl neu gael y gwyliau sy’n weddill yn eich slip cyflog terfynol. Os oes balans negyddol, bydd hyn yn cael ei dynnu o’ch slip cyflog terfynol. Mae cyfrifiannell gwyliau blynyddol ar gael i reolwyr a gweithwyr.
Bydd pob cais yn cael ei asesu i sicrhau nad yw gweithwyr yn disgyn o dan yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar ôl ystyried y didyniad am wyliau a brynwyd (a didyniadau perthnasol eraill o gyflog). OS bydd gweithiwr yn disgyn o dan yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yna caiff y cais ei wrthod.