Yn PCGC, rydym yn blaenoriaethu iechyd a llesiant ein cydweithiwr. Rydym yn deall pwysigrwydd gofalu am ein hunain a’n gilydd, darparu cyfleoedd i ddysgu am bwysigrwydd iechyd a llesiant yn y gweithle, sut i reoli hyn yn effeithiol a ffyrdd y gallwn gefnogi ein gilydd i fod y gorau y gallwn fod. Mae gan ein cydweithwyr fynediad at y gweithgareddau a’r buddion iechyd a llesiant canlynol:
Mae cysylltiad cryf rhwng llesiant ac ymdeimlad o berthyn yn y gweithle, ac yn PCGC rydym nid yn unig yn canolbwyntio ar a ydych chi’n teimlo’n iach, ond hefyd a ydych chi’n teimlo y gallwch chi fod yn driw i’ch hunain yn y gweithle. Mae teimlo eich bod yn perthyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar bobl, ac rydym eisiau i’n cydweithwyr deimlo hyn ar draws ein gwasanaethau yn PCGC.
Rydym yn canolbwyntio ar gofleidio diwylliant cynhwysol sy'n ystyried profiadau pawb ac sy’n gwerthfawrogi'r hyn y gall hyn ei gyfrannu i'r gweithle. Mae PCGC wedi cynnal gweithgareddau ymgysylltu sylweddol gyda chydweithwyr fel rhan o raglen newid diwylliant i hyrwyddo diwylliannau gweithio cadarnhaol. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi datblygu gweithgareddau a gwasanaethau yn ddiweddar i gefnogi cydweithwyr:
Mae PCGC wedi ymrwymo i wrando ar ein cymunedau a darparu cyfleoedd i bawb ffynnu yn ein sefydliad. Rydyn ni eisiau i chi fod y chi go iawn pan fyddwch chi'n dod i'r gwaith, rydyn ni'n parchu ac yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau y mae pob un ohonom ni'n eu cyflwyno a'r gwerth mae hyn yn ei ychwanegu at sefydliad.
Mae cymaint mwy i ddod, ac rydym yn edrych ymlaen at ddangos i chi!