Cynllun dwy flynedd dan arweiniad Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) lle mae graddedigion yn cael eu lleoli yn un o’r tri ar ddeg o Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau neu Sefydliadau Partner yw’r Cynllun Rheoli i Raddedigion.
Mae graddedigion yn ymgymryd â chwrs meistr wedi'i ariannu'n llawn mewn Arweinyddiaeth Iechyd Gymhwysol (Mae hwn yn rhan amser dros gyfnod y cynllun).
I wneud cais am y cynllun gyda’n sefydliad, ewch i:
https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/general-management-grad-programme
I gael rhagor o wybodaeth am yr academi gyllid, cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i: https://academigyllid.gig.cymru