Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau i Raddedigion

Y Cynllun Rheoli i Raddedigion

Cynllun dwy flynedd dan arweiniad Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) lle mae graddedigion yn cael eu lleoli yn un o’r tri ar ddeg o Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau neu Sefydliadau Partner yw’r Cynllun Rheoli i Raddedigion.​​​​​​

Mae graddedigion yn ymgymryd â chwrs meistr wedi'i ariannu'n llawn mewn Arweinyddiaeth Iechyd Gymhwysol (Mae hwn yn rhan amser dros gyfnod y cynllun).

 

Pwy sy'n gymwys ar gyfer y cynllun?

  • I wneud cais mae angen i chi fod wedi ennill neu y rhagwelir y byddwch yn derbyn o leiaf 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth gradd.
  • Staff presennol o fewn PCGC a’r GIG ehangach yng Nghymru.
  • Mae gennych ganiatâd i weithio yn y DU, heb unrhyw gyfyngiadau.

 

Sut i wneud cais:

I wneud cais am y cynllun gyda’n sefydliad, ewch i:

https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/general-management-grad-programme

 

Yr Academi Gyllid

I gael rhagor o wybodaeth am yr academi gyllid, cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i: https://academigyllid.gig.cymru

Rhannu: