Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaethau

Beth yw Prentisiaeth?

Mae prentisiaid yn elwa trwy ddysgu sgiliau gwerthfawr, gan ennill profiad ymarferol tra hefyd yn ennill cyflog. Bydd hyn yn rhoi'r offer sydd eu hangen iddynt ar gyfer gyrfa well yn y dyfodol. Fel Prentis, byddwch yn mabwysiadu dull dysgu cyfunol. Bydd hyfforddiant yn cael ei dderbyn trwy gyfuniad o hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith. Ar ddiwedd eich contract, byddwch yn derbyn cymhwyster Prentis a byddwch wedi ennill profiad gwaith a sgiliau gwerthfawr gyda ni.

 

Pwy sy'n gymwys?

Mae prentisiaethau yn cynnig llwybrau i amrywiaeth o yrfaoedd yn y GIG ac maent yn gyfle gwych i ennill, gweithio a chyflawni cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru sydd dros 16 oed ac nad ydynt mewn addysg amser llawn (gall unigolion wneud cais a dal i fynychu’r ysgol/coleg/prifysgol ond byddant wedi gorffen neu’n bwriadu gorffen eu hastudiaethau erbyn i’r brentisiaeth ddechrau ). Efallai y bydd meini prawf eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi’u nodi yn berthnasol, fel cymwysterau blaenorol, a bydd hyn yn cael ei asesu gan ddarparwr yr hyfforddiant wrth wneud cais.

Sut i wneud cais:

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed, nad ydynt mewn addysg amser llawn, ac yn gymwys i weithio yn y DU. I wneud cais am brentisiaethau gyda’n sefydliad, ewch i: https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/swyddi-gwag-cyfredol/

Rhannu: