Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith 75

Beth yw Rhwydwaith 75?

Mae cynllun Rhwydwaith 75 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â chymhwyster gradd cydnabyddedig wrth iddyn nhw ddefnyddio eu gwybodaeth yn uniongyrchol yn y gwaith. Mae Rhwydwaith 75 yn llwybr at radd sy’n cyfuno gwaith ag astudio. Gall gweithwyr dan hyfforddiant ennill gwybodaeth a chymwysterau academaidd fel ei gilydd ochr yn ochr â phrofiad ymarferol er mwyn eu gwneud yn raddedigion sy’n barod ar gyfer y diwydiant.

 

Pwy sy'n gymwys?

Mae’r fenter wedi’i gweinyddu gan Brifysgol De Cymru ac mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddilyn gradd rhan amser wedi’i hariannu’n llawn dros gyfnod o bum mlynedd tra hefyd yn gwneud lleoliad gwaith wedi’i gyflogi gyda chyflogwr nawdd. Mae’r myfyriwr yn treulio deuddydd yr wythnos yn y Brifysgol yn astudio tuag at y radd, a thridiau'r wythnos ar leoliad gwaith yn ystod y tymor, ond pum diwrnod yr wythnos yn ystod cyfnodau gwyliau’r brifysgol.

 

Sut i wneud cais:

I wneud cais am y cynllun gyda’n sefydliad, ewch i: https://network75.southwales.ac.uk/hafan/ymgeisiwch/

Rhannu: