Neidio i'r prif gynnwy

Adnewyddu menter i helpu i amddiffyn Staff y GIG

Mae'r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a GIG Cymru yn ymuno i adnewyddu'r Ymatebion Gorfodol i Drais mewn Gofal Iechyd i fynd i'r afael ag achosion o drais ac ymddygiad ymosodol yn y gweithle.

Heddiw (30 Mai 2024), cynhaliwyd cyfarfod cydweithredol rhwng yr holl heddluoedd, y CPS yng Nghymru a GIG Cymru i adeiladu ar y cytundeb rhwng partneriaid i leihau ac ymateb i ddigwyddiadau lle mae Staff y GIG a gweithwyr brys eraill yn profi trais ac ymddygiad ymosodol yn y gwaith.

 

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau Cylchlythyr Iechyd Cymru wedi’i ddiweddaru, sy’n amlinellu ei hymrwymiad i Grŵp Cydweithredol Cymru dros Atal Trais a’r camau gweithredu sy’n ofynnol gan gyrff iechyd yn GIG Cymru. Mae dolen i’r Cylchlythyr Iechyd Cymru i’w gweld yma: www.gov.wales/anti-violence-collaborative-obligatory-responses-document-whc2024024

Mae'r cydweithrediad yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Undebau Llafur a Chymdeithasau Staff sy'n cynrychioli Staff y GIG.

 

Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar/Prif Weithredwr GIG Cymru:

“Mae diogelwch ein staff sy’n darparu gwasanaethau GIG Cymru, ynghyd â’r holl ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n cyrchu ei ofal a’i gymorth, yn hollbwysig. Er bod yn rhaid i ni barhau i weithio'n galed i atal digwyddiadau, mae'n hanfodol bwysig, pan fo digwyddiad, bod ein staff a defnyddwyr gwasanaethau yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu. Mae gwaith Grŵp Cydweithredol Cymru dros Atal Trais yn cefnogi ein holl staff a defnyddwyr gwasanaethau i ymateb pan fydd digwyddiad. Ar y cyd â sefydliadau partner, maent yn gweithio i atal digwyddiadau yn y dyfodol a chyfyngu ar nifer y digwyddiadau.”

Amlygodd Pam Kelly, Medal Heddlu’r Frenhines (QPM), Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, “Mae unrhyw ymosodiad yn erbyn gweithiwr brys yn annerbyniol. Dylid parchu’r union bobl sydd yno i helpu ac achub bywydau. Bydd yr heddlu yn ymateb yn gadarnhaol i gefnogi cydweithwyr pan fyddant yn wynebu trais ac ymddygiad ymosodol yn y gweithle ac yn annog pob gweithiwr brys ... yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn y GIG i adrodd am ymosodiadau ac ymddygiad amhriodol."

Nicky Hughes, Cyfarwyddwr Cyswllt Nyrsio Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Cysylltiadau Cyflogaeth): “Mae ymdrechion Grŵp Cydweithredol Cymru dros Atal Trais yn hollbwysig i sicrhau bod staff y GIG, sy’n cysegru eu bywydau i wasanaethu’r cyhoedd, yn cael eu hamddiffyn rhag trais ac ymddygiad ymosodol. Mae'r Digwyddiad Ail-lofnodi yn garreg filltir arwyddocaol. Mae'n dathlu ymrwymiad parhaus partneriaid, gan gynnwys GIG Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a phedwar heddlu Cymru, i'r cytundeb 'Ymatebion Gorfodol i Drais mewn Gofal Iechyd'. Mae’r cydweithio hwn, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o undebau llafur a chymdeithasau staff, yn hanfodol ar gyfer diogelwch a llesiant ein holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol.”

Dywedodd Jonathan Webb, Pennaeth Diogelwch a Dysgu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Chadeirydd Grŵp Cydweithredol Cymru dros Atal Trais: “Rwy’n falch iawn bod Grŵp Cydweithredol Cymru dros Atal Trais wedi’i hadnewyddu, ac mae’r gwaith partneriaeth cryf er budd pawb wedi’i adfywio. Bydd y cydweithio rhwng y sefydliadau partner yn cefnogi ein staff i ddelio ag achosion o drais ac ymddygiad ymosodol.”

Dywedodd Victoria Goodwin, Arweinydd Defnyddwyr Gwasanaeth Effaith Uchel ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, “Yn anffodus, nid yw nifer fach o gleifion sy’n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru yn ymddwyn mewn ffordd briodol. Gall trais, ymddygiad ymosodol, ac ymddygiad rhywioledig gael effaith ddofn a hirhoedlog ar staff ac achosi tarfu sylweddol ar wasanaethau. Mae’r cydweithio rhwng y sector cyfiawnder troseddol a’r GIG yn darparu fframwaith cadarnhaol i leihau nifer y digwyddiadau”.

Rhannu: