Neidio i'r prif gynnwy

Anrhydedd i dîm Caffael a'r Gwasanaeth Negesydd Iechyd yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru

 

Llongyfarchiadau i’n tîm Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd a enillodd y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar.

Cynhelir Gwobrau Trafnidiaeth Cymru yn flynyddol i gydnabod a dathlu gwaith y genedl ledled y sector diwydiannau.

Enillodd y tîm Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth y wobr am eu cyfraniad aruthrol wrth gefnogi GIG Cymru yn ystod pandemig y Coronafeirws.

 

Dywedodd Graham Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd:
“Mae’r wobr hon yn wych i’r tîm cyfan ar draws y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth. Roedd yn arbennig o braf nodi bod Busnes Cymru wedi creu categori arbennig i gydnabod y gwaith gwych sydd wedi’i gyflawni trwy gydol pandemig COVID-19 lle mae’r holl staff wedi ymateb i bob her a daflwyd atynt.”

 

Mae rhagor o wybodaeth am y gwobrau - ynghyd â fideo o'r digwyddiad, ar wefan Gwobrau Trafnidiaeth Cymru trwy'r ddolen ganlynol yma.

Rhannu: