Neidio i'r prif gynnwy

Bydwragedd GIG Cymru yn dathlu llwyddiant eithriadol yng Ngwobrau'r Coleg Nyrsio Brenhinol

 

Llongyfarchiadau i’r bydwragedd Sarah Morris a Laura Little a ddathlodd llwyddiant yn ddiweddar yn seremoni Wobrwyo’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN). Mae’r seremoni’n tynnu sylw at gyflawniadau eithriadol y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau, gan gynnwys eu dylanwad cadarnhaol ar arferion nyrsio gorau a gwella’r gofal a roddir i unigolion a chymunedau yng Nghymru.

Mae Sarah yn rhan o dîm PROMPT (Hyfforddiant Aml-Broffesiynol Ymarferol mewn Obstetreg) Cymru ac mae Laura yn rhan o dîm Cadw Golwg ar y Ffetws yn ystod Genedigaeth Cymru. Mae’r ddwy yn rhaglenni Diogelwch a Dysgu Mamolaeth a ariennir gan Wasanaethau Cronfa Risg Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC).

Roedd Sarah yn llwyddiannus yn y categori Gwobr y Prif Swyddog Nyrsio ac enillodd ei gwobr trwy wneud gwelliannau trawsnewidiol a chynaliadwy i hyfforddiant a datblygiad ar gyfer timau aml-broffesiynol yn ei rôl genedlaethol fel Bydwraig Genedlaethol PROMPT Cymru ac fel Bydwraig Datblygu Ymarfer ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Roedd Sarah yn allweddol wrth sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cyflawni Safon PROMPT Cymru o 95% o gydymffurfiaeth PROMPT yn 2019, 2020 a 2021.

Mae Sarah yn sicrhau bod tystiolaeth o ddigwyddiadau ac adolygiadau llywodraethu yn cael ei thriongli a’i defnyddio i ddarparu cyfleoedd dysgu o fewn hyfforddiant PROMPT Cymru. Mae hi wedi nodi gwelliannau ymarferol i systemau mewn amgylcheddau clinigol, megis siartiau troi ar y wal i arddangos algorithmau gan sicrhau eu bod yn hawdd i’w gweld mewn argyfwng.

Adolygodd Sarah dystiolaeth leol ynghylch canfod dystocia’r ysgwydd a dangosodd sut mae hyfforddiant cadarn a chraffu ar ddata yn arwain at well gwasanaethau i fenywod, pobl feichiog a phobl sy’n geni, a’u teuluoedd.

Cyd-ddatblygodd Sarah PROMPT Cymru yn y gymuned a chefnogodd ei weithrediad o fewn gwasanaethau bydwreigiaeth cymunedol yng Nghymru. Mae Sarah wedi annog safoni offer a gludir gan fydwragedd cymunedol. Mae cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gwella drwy'r rhaglen hon, gyda pharafeddygon yn bresennol a chyfadran i barafeddygon.

Dywedodd Sarah; “Mae’n anrhydedd mawr i mi gyrraedd y rhestr fer ac ennill Gwobr Prif Swyddog Nyrsio 2023. Mae hwn yn gyflawniad anhygoel ac mae gennyf gymaint o gydweithwyr i ddiolch iddynt ac i fod yn ddiolchgar iddynt, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru.”

Cyflwynwyd Ail Wobr yr RCN i Laura am Gefnogi Addysg a Dysgu ar Waith a hi oedd y fydwraig arbenigol llesiant y ffetws a chadw golwg ar y ffetws gyntaf yng Nghymru. Yn ddiweddar, mae Laura wedi ymuno â thîm Cadw Golwg ar y Ffetws yn Ystod Genedigaeth (IFS) Cymru yng Nghronfa Risg Cymru. Mae hi ynghlwm â datblygu rhaglen addysg a hyfforddiant newydd sbon sydd i’w rhoi ar waith ar draws GIG Cymru yn ddiweddarach eleni.

Ymhlith llawer o ddatblygiadau arloesol yn ei rôl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, mae Laura wedi cydlynu a threfnu hyfforddiant a gweithrediad system newydd o fonitro Cardiotocograffeg (curiad calon babanod) ac wedi datblygu grŵp hyfforddi ar gyfer staff mamolaeth cymwys.

Yn ogystal, mae hi’n gyd-sylfaenydd ac yn gadeirydd y Grŵp Rhwydwaith Monitro Ffetws sy’n cynnwys cynrychiolaeth o bob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Bu’n allweddol wrth gyflwyno dehongliad ffisiolegol o fonitro ffetws i’r Bwrdd Iechyd, gan ddyfeisio, ac addasu offeryn dehongli newydd i alluogi’r newid i ddull cwbl ffisiolegol. Mae hi wedi cydweithio â phob uned obstetrig i adolygu cyfarfodydd myfyrio i addasu i heriau'r pandemig.

Mae gwaith Laura wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr (RCOG) a The British Medical Journal, am ddatblygu platfform rhithwir i hwyluso dysgu myfyriol.

Dywedodd Laura; “Mae’n fraint wirioneddol i fod ar restr fer y wobr. Mae cael cydnabyddiaeth o’r fath am yr holl waith sydd wedi’i wneud nid yn unig gennyf fi ond gan y tîm ehangach, yn hynod bwysig er mwyn cyflawni ein nod cyffredin o ymdrechu’n barhaus i ddarparu’r gofal gorau posibl i’r holl deuluoedd yn ein gofal.”

Dywedodd Sarah Hookes, Pennaeth Cynorthwyol Diogelwch a Dysgu, Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru;

“Mae Jonathan Webb, Pennaeth Diogelwch a Dysgu, Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru, a minnau’n hynod falch o Sarah a Laura ar eu gwobrau clodfawr. Mae’r ddwy yn enillwyr haeddiannol iawn, ac rydym wrth ein bodd bod eu hymrwymiad i wasanaethau mamolaeth GIG Cymru wedi’i gydnabod yn y modd hwn. Rydym yn falch o’u cael yn Nhîm Diogelwch a Dysgu Mamolaeth Cronfa Risg Cymru.”

Rhannu: