Neidio i'r prif gynnwy

Cadarnhau Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fel y partner newydd i weithredu'r Cynllun Indemniad i Feddygon Teulu yng Nghymru

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd mai Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fydd y partner i weithredu Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol o 1 Ebrill 2019. Bydd Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol yn cyd-fynd cyn belled â phosibl â'r cynllun a gyhoeddwyd yn Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau nad yw Meddygon Teulu Cymru o dan anfantais o'u cymharu â meddygon teulu yn Lloegr. Bydd hefyd yn sicrhau na fydd unrhyw effaith negyddol ar weithgarwch trawsffiniol neu recriwtio oherwydd gwahanol gynlluniau sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.  Bydd y cynllun yn cynnwys rhwymedigaethau esgeulustod clinigol sy'n codi o weithgarwch yr holl gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol. Bydd hyn yn cynnwys staff practisiau meddygon teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill megis meddygon teulu ar gyflog, meddygon teulu locwm, fferyllwyr practis, nyrsys practis a chynorthwywyr gofal iechyd.

 

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd;

“Bydd y cynllun newydd hwn yn rhoi mwy o sicrwydd a sefydlogrwydd i ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru. Bydd yn cefnogi practisiau meddygon teulu a chlystyrau gofal sylfaenol wrth iddynt ddarparu gofal iechyd cynaliadwy a hygyrch.”

Mae Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a GIG Cymru, sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynllun, wedi croesawu cadarnhau Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel y partner i weithredu Cynllun Rhwymedigaethau’r Dyfodol.”

 

Meddai Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru:

“Mae Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg weithredu Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol o 1 Ebrill 2019.  Bydd y cynllun arfaethedig yn mynd i’r afael ag un o’r pwysau ariannol mwyaf sydd ar feddygon teulu a bydd yn galluogi pob meddyg teulu, tîm practis a chlwstwr ehangach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gydweithio’n agosach, gan hyrwyddo’r gwaith o drawsnewid gofal sylfaenol yng Nghymru.”

 

Meddai Anne Louise Ferguson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru:

“Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych ymlaen at ddarparu gwasanaethau o safon uchel i feddygon teulu yng Nghymru a fydd yn adeiladu ar ein llwyddiant wrth ddarparu indemniad gofal eilaidd.”

 

Meddai Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru:

“Rydw i wrth fy modd bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi’n swyddogol mai Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw’r partner fydd yn gweithredu Cynllun Rhwymedigaethau’r Dyfodol. Fel sefydliad, rydym ni’n edrych ymlaen at ddarparu’r Cynllun mewn partneriaeth ag ymarferwyr cyffredinol a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol ledled GIG Cymru.”

Rhannu: