Neidio i'r prif gynnwy

CIVAS@IP5 yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru 2021

IP5 welsh pharmacy awards 2021

Ar 13 Hydref 2021 cynhaliwyd Gwobrau Fferylliaeth Cymru yng Ngwesty’r Fro i gydnabod y cyfraniad anhygoel gwasanaethau fferylliaeth ledled Cymru at ofal cleifion.

Yn y digwyddiad blynyddol mawreddog hwn cyhoeddwyd bod tîm CIVAS@IP5 a'r grŵp Gwasanaethau Fferyllol Clinigol a Thechnegol ehangach wedi ennill Gwobr Datblygu Diogelwch Cleifion mewn Gofal Eilaidd. 

Cydnabu’r dyfarniad hwn y gwaith hynod lwyddiannus a wnaed gan gydweithwyr Gwasanaethau Technegol ledled Cymru i ddarparu arllwysiadau gofal critigol parod i’w gweinyddu, gan leddfu’r baich aruthrol a brofodd ein staff nyrsio’r GIG yn ystod y pandemig.

Roedd y prosiect yn cynnwys cydweithredu trawsffiniol ac amlddisgyblaethol i hwyluso dyluniad cyfleuster gweithgynhyrchu newydd wedi'i leoli yn hwb rhanbarthol IP5 PCGC yng Nghasnewydd, creu System Rheoli Ansawdd Cymru Gyfan i fodloni safonau rheoleiddio a datblygu arllwysiadau gofal critigol safonol sy'n cwrdd â'r safonau ansawdd uchaf.  Yn dilyn hynny, mae'r tîm gweithredol yn CIVAS@IP5 wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu dros 18000 o arllwysiadau parod i'w gweinyddu ac arbed dros 200 diwrnod o amser nyrsio, ar gyfradd gynhyrchiant o 98% gan amlygu effaith meddwl blaengar a chydweithredol wrth ddarparu gwasanaethau clinigol.

Yn y llun mae Michelle Jenkins - Rheolwr Cynhyrchu ac Emma Tayler - Technegydd Arweiniol ar gyfer Sicrwydd Ansawdd, o dîm CIVAS @ IP5.

 

Dywedodd Gareth Tyrrell, Pennaeth Gwasanaethau Technegol - CIVAS @ IP5;

“Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol i bawb a gyfrannodd at ddatblygiad y gwasanaeth hwn, ac yn arbennig i'r tîm gweithredol yn CIVAS@IP5 sy'n gweithio'n ddiflino bob dydd i ddarparu meddyginiaethau o ansawdd uchel i'r cleifion mwyaf difrifol wael yn y GIG.  Mae hefyd yn gydnabyddiaeth o'r gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a PCGC i greu gwasanaeth clinigol Cymru Gyfan mor arloesol"

 

Paul Spark, Fferyllydd Atebol - CIVAS@IP5

“Hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran.  Mae hyn yn haeddiannol iawn ac mae'n tynnu sylw at y gwaith caled a'r proffesiynoldeb a ddangosir gan staff o'r cychwyn cyntaf i'r arfer gweithredol cyfredol. "

Rhannu: