Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Dr Sue Barnes yn ymuno â ni fel Cadeirydd newydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Mae Dr Barnes yn ymgymryd â'r rôl ar ôl i'r Cadeirydd blaenorol, Tracy Myhill OBE, gamu i lawr o'r rôl fis diwethaf.
Dywedodd: “Mae'n bleser ac yn fraint ymgymryd â'r rôl hon.
“Ar ôl treulio rhan helaeth o fy ngyrfa yn gweithio i wella gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cleifion a dinasyddion, rwy’n deall y pwysau ar bwrs y wlad a phwysigrwydd sicrhau bod pob punt sydd ar gael yn darparu’r gwerth mwyaf posibl ar gyfer gofal cleifion.
Mae gan y Cydwasanaethau ran ganolog i'w chwarae yn y genhadaeth honno, ac mae’r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni gan y tîm ym Mhartneriaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi gwneud cryn argraff arna i.
“Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor, Neil a’r tîm ehangach i gyflawni agenda uchelgeisiol a all drawsnewid y ffordd rydym yn cydweithio yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod ysbryd gweledigaeth ‘Unwaith i Gymru’ yn cyflawni ei botensial llawn trwy ryddhau adnoddau gwerthfawr ar gyfer y meysydd sydd eu hangen fwyaf: sef gwasanaethau rheng flaen a gofal cleifion.”
Bydd Dr Barnes yn ymgymryd â'r rôl yn ogystal â'i swydd fel Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
Dywedodd Neil Frow OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru: “Mae Sue yn arweinydd uchel ei pharch ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, a bydd ei phrofiad, ei gwerthoedd a’i hymrwymiad i wella gwasanaethau cyhoeddus yn ased enfawr i PCGC ac i GIG Cymru.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Sue yn y blynyddoedd i ddod wrth i ni barhau i gefnogi GIG Cymru gyda’n gilydd.”
Ymunwch â ni i groesawu Dr Barnes i PCGC!