Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithiwr ar y rhestr fer ar gyfer gwobr uchel ei bri Coleg Brenhinol y Bydwragedd

Llongyfarchiadau i Sarah Hookes sydd wedi cyrraedd y rhestr fer gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) yng nghategori Bydwraig y Flwyddyn fel rhan o'u seremoni wobrwyo flynyddol.

Mae Sarah, sy’n Uwch Gynghorydd Diogelwch a Dysgu yng Ngwasanaethau Cronfa Risg Cymru PCGC, wedi cael ei chydnabod am ei chyflawniadau rhagorol ym maes bydwreigiaeth. Mae hyn wedi cynnwys gwaith tîm a phrosiectau ymarfer ar sail tystiolaeth, ynghyd â chael effaith gadarnhaol ar fenywod, teuluoedd a'u babanod newydd-anedig, gan arddangos safonau bydwreigiaeth o safon fyd-eang.

Meddai Sarah; “Mae’n anrhydedd ac rwy’n falch iawn fy mod i wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Bydwraig y Flwyddyn RCM 2021. Roedd yn sioc mawr cael fy enwebu! Mae cynifer o fydwragedd anhygoel yn y GIG sy’n cyflawni pethau anhygoel, felly mae’n fraint meddwl bod fy nghyfraniad i wedi cael ei gydnabod.

“Arwain rhaglen PROMPT Cymru oedd uchafbwynt fy ngyrfa, ond daw hyn yn sgil 20 mlynedd hapus a boddhaus iawn fel bydwraig glinigol, a phum mlynedd fel Bydwraig Datblygiad Proffesiynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae rhoi PROMPT Cymru ar waith, gyda chefnogaeth ein sefydliad, wedi bod yn brofiad gwirioneddol gydweithredol sydd wedi cynnwys cydweithwyr o holl wasanaethau mamolaeth GIG Cymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid cydnabod cyfraniad ein bydwragedd Jane Storey (fy enwebydd - diolch Jane!) a Sarah Morris. Mae’n gyffrous iawn ein bod yn mynychu'r Seremoni Wobrwyo ar 27 Hydref! ”

Cyhoeddir yr enillydd mewn seremoni wobrwyo ddisglair yn The Brewery, Llundain ar 27 Hydref 20021. Dymunwn bob lwc i Sarah.

Rhannu: