Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithiwr Gwasanaethau Caffael yn cael ei chydnabod gyda Medal Ymerodraeth Prydain yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Llongyfarchiadau i Louise Rogers, Dirprwy Bennaeth Cadwyn Gyflenwi GIG Cymru, Logisteg a Thrafnidiaeth, sydd wedi ennill Medal Ymerodraeth Prydain (BEM) fel rhan o Restr Anrhydeddau Pen-blwydd EM y Frenhines.

Cydnabuwyd Louise am ei gwasanaethau i GIG Cymru ym maes logisteg a rheoli'r gadwyn gyflenwi am ei chyfraniad sylweddol wrth helpu i fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws.

Rhoddir y BEM i gydnabod gwasanaeth sifil neu filwrol teilwng sy'n haeddu cydnabyddiaeth gan y Goron. Gall hwn fod yn weithgaredd elusennol neu wirfoddol hirdymor, neu'n waith arloesol am gyfnod cymharol fyr (3 i 4 blynedd) sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.

Dywedodd Louise:

“Cefais fy synnu fod fy nghyfraniad yn ystod y pandemig wedi cael ei gydnabod fel hyn. Rwy'n teimlo nad yw’r enwebiad ar fy nghyfer i’n unig, ond mae ar gyfer fy nhîm cyfan sydd wedi bod yn wirioneddol anhygoel wrth gefnogi ymateb COVID GIG Cymru. Hoffwn ddiolch i fy Nhîm, Tîm Cadwyn Gyflenwi PCGC, Logisteg a Thrafnidiaeth, i fy nghydweithwyr, ac i’r teulu am eu cefnogaeth barhaus trwy gydol y cyfnod heriol hwn."

Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd:

“Rwy’n falch iawn bod Louise wedi derbyn y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu trwy dderbyn Medal Ymerodraeth Prydain yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Mae Louise wedi dangos ymrwymiad diflino i GIG Cymru trwy ei rôl arweiniol yn nhîm Cadwyn Gyflenwi PCGC ac mae ei hymroddiad a’i harbenigedd trwy gydol y pandemig wedi bod yn allweddol i’n hymateb llwyddiannus i her COVID.” 

“Dyma drydedd wobr Anrhydedd y Frenhines a gyflwynwyd i staff yn Is-adran Gwasanaethau Caffael ac mae'n dangos unwaith eto’r cyfraniad sylweddol a hollbwysig y mae pob un o’n staff wedi'i wneud i Gadw Cymru'n Ddiogel yn ystod y pandemig.  Llongyfarchiadau mawr i Louise ar dderbyn eich gwobr haeddiannol.”

 

Tony Chatfield – Pennaeth Cadwyn Gyflenwi GIG Cymru, Logisteg a Thrafnidiaeth:

‘Roedd yn wych bod Louise wedi cael ei chydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni, ac mae’n tynnu sylw at ei hymrwymiad parhaus i wasanaethau Cadwyn Gyflenwi’r GIG yng Nghymru.”

“Boed hynny trwy ymateb yr adran trwy gydol y pandemig; ond hefyd mewn perthynas â’r gwaith a wnaed yn y cynllun i leihau risgiau’r gadwyn gyflenwi i GIG Cymru a allai fod wedi digwydd yn sgil Brexit, mae Louise wedi ymateb yn barhaus i’r heriau a’r amgylchiadau a fu o’i blaen.”

“Mae’r wobr hefyd yn golygu bod pobl yn sylwi ar ein cydymdrechion, ac mae’n helpu i gydnabod yn eang ein bod yn chwarae rhan ganolog wrth ‘wneud i bethau ddigwydd’, gan roi cadwyn gyflenwi PCGC yn gadarn ar y rheng flaen.

Llongyfarchiadau a da iawn wir”

 

Mark Roscrow, Cyfarwyddwr Rhaglen PCGC;

“Rwy’n hynod falch o Louise. Mae hi’n llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth hon. Mae hi wedi cyflawni gwaith gwych yn ystod y pandemig Covid ac wedi chwarae rhan enfawr wrth sicrhau bod cynhyrchion yn parhau i lifo i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru. Mae wedi bod yn fraint i mi adnabod Louise ers nifer o flynyddoedd bellach a gwn fod ei chydweithwyr yr un mor falch ohoni, sy'n gydnabyddiaeth gyfartal ynghylch faint mae pobl yn meddwl ohoni. Rwy'n gwybod ei bod yn cymryd yn hirach iddi fynd â’r cŵn o dro amgylch ei thref enedigol wrth iddi ddod i delerau â bod yn enwog yn lleol erbyn hyn.”

Rhannu: