Llongyfarchiadau i gydweithwyr Gwasanaethau Caffael Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a ddathlodd lwyddiant yng Ngwobrau Caffael Cenedlaethol Cymdeithas Cyflenwadau Gofal Iechyd (HCSA).
Mae'r seremoni wobrwyo fawreddog, a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd yn Harrogate, yn dathlu rhagoriaeth mewn adrannau Caffael a Chadwyn Gyflenwi ar draws pedair gwlad y DU, gan arddangos arferion gorau a chyflawniad ym maes rheoli a llywodraethu caffael.
Cyrhaeddodd PCGC y rhestr fer mewn 6 o gyfanswm o 9 categori gwobr a derbyniodd Claire Salisbury Wobr ar gyfer Rhagoriaeth Caffael, enillodd Sarah Yellen Wobr Arwr Di-glod ac fe gafodd Emma Lane ganmoliaeth uchel yn yr un categori. Mae'r canlyniadau unigol a chyfunol unwaith eto yn tynnu sylw at waith caled ac ymroddiad staff PCGC sy’n cyd-fynd â gwerthoedd craidd sefydliadol y Bartneriaeth Cydwasanaethau.
Meddai Graham Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Caffael - Cadwyni Cyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth; “Mae'n braf iawn gweld unwaith eto bod adrannau Caffael a Gwasanaeth Negesydd Iechyd PCGC wedi cael cydnabyddiaeth am fod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaeth yn y GIG. Dylai pawb a gyrhaeddodd y rhestr fer derfynol fod yn falch o'r gydnabyddiaeth uchel ei bri hon, a llongyfarchiadau i'r rhai a aeth ymlaen i dderbyn canmoliaeth uchel neu ennill."