Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithwyr yn PCGC yn cyflawni her Yr Wyddfa ar gyfer elusen Macmillan (NWSSP colleagues undertake Snowdon challenge for Macmillan charity)

Am 02:00am ddydd Sul 6 Medi 2020, cyrhaeddodd tîm o’n staff o’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd, y Gadwyn Gyflenwi a Chaffael gopa’r Wyddfa gyda’r nos, fel rhan o’u hymdrechion parhaus i godi arian ar ran Macmillan Cymru.

Gwnaeth Gildas Griffiths, Dirprwy Bennaeth y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth PCGC, drefnu’r daith a daeth grŵp o 33 o gerddwyr ynghyd i wynebu’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru sy'n 1085 metr o uchder ac sydd wedi'i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.  Dywedodd Gildas:

“Trefnais i’r digwyddiad hwn ar ôl colli fy Nhad ym mis Ebrill 2018, ar ôl salwch byr o ganlyniad i ganser. Rhoddodd Macmillan gefnogaeth ac urddas amhrisiadwy i Dad a’m teulu. Rwyf wedi trefnu nifer o heriau tebyg yn y gorffennol gan gynnwys Her Tri Chopa Cymru ar sawl achlysur. Roedd ein her Yr Wyddfa gyda’r Nos yn bersonol iawn i mi ac yn uchafbwynt yn fy ymdrechion i godi arian.  Mae'r gefnogaeth a gawsom gan gydweithwyr wedi bod yn aruthrol.

Ar adeg pan oedd fy nhîm yn wynebu'r heriau mwyaf sylweddol yn eu gyrfaoedd trwy weithio'n ddiflino ar y rheng flaen fel rhan o ymateb y GIG i'r achosion o Covid-19 ers mis Chwefror, nid yn unig y mae ein timau wedi cynnal eu dyletswyddau gwaith 'arferol', maent hefyd wedi gweithredu o dan alw ychwanegol sylweddol am wasanaethau.  Mae'r adborth gan Fyrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru a'n partneriaid, wedi bod yn aruthrol.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i mi hyrwyddo llesiant corfforol ac emosiynol, adeiladu tîm, arweinyddiaeth a dangos sut y gellir cyflawni hyn, ni waeth beth yw’r amgylchiadau.

Roedd ein grŵp yn wynebu tywydd eithaf gwael, yr oerfel, y gwynt, heb sôn am y tywyllwch a’r glaw di-baid a fu wrth inni agosáu at lethrau Carnedd Ugain a Chlogwyn Goch, a bu’r glaw yn cadw cwmni i ni nes i ni gyrraedd y copa.  Gwnaethon ni gerdded dros 10 milltir, sydd dros 33,000 o gamau, ond, fel tîm, gwnaethon ni gyflawni cymaint mwy.

Yn ogystal â phenderfyniad gwych y grŵp, roeddwn yn falch o gael cwmni fy mab, Steffan Griffiths (14).   Fel Cadét Tân, ers hynny, mae wedi cael cydnabyddiaeth am ei ymdrechion gan ei Ysgol, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Byddai ei Dad-cu yn falch iawn ohono, rwy’n gwybod fy mod i’n falch iawn ohono.

Hyd yn hyn, rydyn ni wedi codi dros £3500 ac mae ein hymdrechion yn parhau, rydyn ni eisoes wedi trefnu Cinio Elusennol ym mis Ebrill 2021 ac yn trafod ein digwyddiad nesaf."

Dywedodd Tony Chatfield, Pennaeth y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth:

“Roedd yn wych cael bod yn rhan o rywbeth y tu allan i amgylchedd y swyddfa unwaith eto, lle mae'r adrannau'n tynnu at ei gilydd mewn profiad heriol.

Mae'r timau'n dal i fynd gam ymhellach mewn perthynas â'n hymateb gweithredol i Covid-19, a daeth eu penderfyniad i’r amlwg eto yn yr her anodd hon i godi arian at achos arbennig.

Mae'n gyflawniad sydd wedi helpu i gryfhau ein perthynas ymhellach, wrth hyrwyddo ymarfer corff da ac agwedd hynod gadarnhaol tuag at lesiant

Os nad ydych wedi rhoi eto, byddwn yn eich annog i wneud hynny gan fod hwn yn achos buddiol ac mae elusennau wedi bod trwy gyfnod anodd gan fod y cyfleoedd i godi arian wedi lleihau o ganlyniad i’r pandemig.”

Mae'r ddolen i'n Tudalen Go Fund Me yma

https://www.gofundme.com/f/snowdon-by-night-2020-wales

Rhannu: